PROBLEMAU IECHYD MEDDWL > GWEITHIWR CYNORTHWYOL TIR COED A MENTER GOETIROL

Stori Dean

Profodd Dean ddigwyddiadau andwyol trwy gydol ei blentyndod a fu'n effaith negyddol ar ei fywyd nes ymlaen, ei iechyd corfforol a meddwl a'i berthnasau gydag eraill. Daeth gwrthdaro yn rhan o hyn, a phan gyfarfuom ag ef yn gyntaf, roedd ynghlwm ag achos llys dros ymweliadau gyda'i fab. Esboniodd Dean ei fod wedi dioddef cyfnod o iselder a gorbryder dwys, gymaint fel na fedrai adael y tŷ am nifer o flynyddoedd. Gyda chymorth Tir Coed yn y flwyddyn gyntaf, teimlodd ei fod yn barod i ymgysylltu â chwrs hyfforddi Tir Coed.

Blwyddyn yn ddiweddarach, y mae Dean nawr wedi cwblhau dau gwrs hyfforddi tri mis gyda Tir Coed, gan ennill achrediad lefel 1 mewn rheoli coetiroedd cynaliadwy ac achrediad lefel 2 mewn cadwraeth ymarferol. Bu'n gyfranogwr ac yna yn cymryd rhan mwy cynorthwyol mewn nifer o ddiwrnodau gweithgaredd arbennig a diwrnodau agored cymunedol. Ar hyn o bryd mae Dean yn derbyn hyfforddiant i fod yn weithiwr cynorthwyol ar gyfer Tir Coed ac yn derbyn cymorth wrth ddatblygu menter goetirol gyda 3 o gyfranogwyr eraill Tir Coed. Mae Dean wedi gadael ei gragen yn llwyr ac wedi profi ei fod yn ddibynadwy 100% er gwaethaf ei amgylchiadau bywyd anodd.

Mae Tir Coed wedi helpu i mi oresgyn rhai problemau personol. Roeddwn yn ffodus iawn o gael mynychu cwrs Tir Coed, roedd o les aruthrol i mi. 'Dwi wedi dioddef o nifer o broblemau iechyd meddwl a chyflyrau corfforol dros amser hir. Ers i mi fod yn mynychu'r sesiynau mae fy iechyd meddwl wedi gwella'n fawr ynghyd â'm cyflwr corfforol a 'dwi wedi derbyn addysg ardderchog hefyd.

Dwi'n credu bod yr hyn y mae Tir Coed yn ei wneud ar gyfer pobl fel fi, a'r cyhoedd yn gyffredinol, o safbwynt iechyd da yn ardderchog! 'Dwi'n dysgu mwy am fywyd gwyllt a rheoli coetiroedd bob dydd, dros y flwyddyn diwethaf 'dwi wedi cael fy hun yn ymwneud mwy a mwy gyda gwirfoddoli wrth i'm iechyd wella, dyma'r lles y mae Tir Coed yn gwneud i'm bywyd i ac i eraill.

Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed