DI-WAITH > GWEITHIWR GWASANAETHAU COEDWIGAETH

Stori David         

Ni chafodd David yr ysgol yn hawdd, bu'n brwydro gyda chyfyngiadau a'r strwythurau'r cwricwlwm a'r gweithgareddau yn yr ystafell ddosbarth. Roedd bob amser yn hapusach wrth wneud pynciau ymarferol, lle medrai defnyddio'i ddwylo i greu. Wedi gadael yr ysgol, ceisiodd ddilyn cyrsiau mwy galwedigaethol mewn gosod briciau a gwaith pren, ond fe gafodd hi'n anodd setlo ac felly gadawodd y cyrsiau cyn eu cwblhau. Cafodd well hwyl ar gwrs peiriannu, ond er iddo lwyddo yn hyn, nid oedd yn waith a'i ysbrydolai am yn hir. Yna, pan yn 19 mlwydd oed cafodd ei gyfeirio at gwrs sgiliau coetir Tir Coed, a syrthiodd pob peth i'w le iddo.

Wrth fod yn yr awyr agored, yn enwedig mewn coetir, teimlai David yn fwy pwyllog ac yn fwy abl i reoli ei rwystredigaeth. Daeth i ddarganfod sgiliau newydd, gwnaeth ffrindiau newydd a datblygodd berthynas weithredol dda gyda'r tiwtor, Ben Grey. Daeth David yn hyfforddai ymroddgar ac yn wirfoddolwr ymrwymedig, yn awyddus i dderbyn pob profiad posib. Rhoddodd dros 300 awr o wirfoddoli i'r prosiect – arwydd o'i ymroddiad a'i ddiddordeb yn y gwaith.

Profodd David ei fod yn aelod brwd a chydwybodol o'r tîm, ac o ganlyniad fe gynigodd y tiwtor gyfleoedd eraill iddo wirfoddoli gan fentora ieuenctid eraill ar amryw o raglenni coetirol. O ganlyniad i'r adborth ffafriol a ddaeth o'r profiadau hyn, cynigwyd gwaith iddo yn Hyfforddwr Cynorthwyol gan Tir Coed; cymerodd ei gyfrifoldebau newydd o ddifrif, gan hyd yn oed baratoi a choginio prydau bwyd ar gyfer y cyfranogwyr bob sesiwn. Datblygodd David ddull hamddenol a llawen o ymdrin ag eraill, tra'n dangos empathi a dealltwriaeth o ffyrdd o fyw ac amgylchiadau'r unigolion dan ei orchwyl. Yn eu tro, byddai'r cyfranogwyr yn edrych tuag ato yn ddelfryd ymddwyn o'r hyn y gellid ei gyflawni drwy'r prosiectau coetirol hyn.

Ymunodd David â Tir Coed unwaith eto, y tro hwn ar gyfer hyfforddiant i fod yn Weithiwr Cynorthwyol, gan ymestyn ei wybodaeth a'i sgiliau ymhellach, ond bu'n rhaid iddo gymryd saib am rai misoedd wedi iddo dderbyn anaf (y tu allan i'r cwrs). Wedi iddo wella, fe gafodd hi'n anodd cael gwaith mor ystyrlon â'r gweithgareddau rheoli coetiroedd a ddaeth mor agos i'w galon. Wedi bod yn ddi-waith am gyfnod hir, digiodd David gyda'r system oedd yn gorfodi iddo gymryd rhan mewn gwaith a deimlai oedd yn anaddas ac anghynhyrchiol. Dim ond wedi iddo sylwi ar  yr hysbysebion am Brentisiaethau Rheoli Coetiroedd Tir Coed y daeth i adennill ei gymhelliant segur.

Yn anffodus, ni fu David yn llwyddiannus wrth sicrhau lleoliad gwaith yn y rownd gyntaf, ond 12 mis yn ddiweddarach, gyda'r awch i lwyddo cyn gryfed ag erioed, ymgeisiodd eto, ac er mawr lawenydd iddo cafodd gynnig leoliad prentisiaeth gyda menter gymdeithasol Tir Coed WiseWoods Wales. Oherwydd natur gwledig cartref David, roedd yn rhaid iddo deithio cyfanswm o 75 milltir y dydd, 3 diwrnod yr wythnos er mwyn mynychu lleoliad ei brentisiaeth, hyn oll ar drafnidiaeth cyhoeddus. Mae hyn yn glodfawr yn ei hunan, gan nad yw gwasanaethau bws cefn gwlad yn rheolaidd iawn, a byddai'r 8 awr o deithio bob dydd yn peri i'r diwrnod gwaith dyfu yn aruthrol. Yn ystod ei brentisiaeth, gweithiodd David i amserlen gynhyrfus tîm WiseWoods Wales, yn dylunio, creu, adeiladu a mewnosod offer chwarae unigolyddol. Mae David wedi ei gyflogi mewn gwaith coedwigaeth llawn amser, rhywbeth sydd wedi gweddnewid ei fywyd er y gwell. Heb Tir Coed a'i lwybrau dilyniant, gallai ei fywyd wedi bod yn wahanol iawn. 

Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed