Diwrnod yn Sioe Frenhinol Cymru

Written by Tir Coed / Dydd Mawrth 31 Gorffennaf 2018

Dechreuodd Ffion, Teresa a Lowri yn y bore bach ddydd Mawrth y 24ain o Orffennaf i ymuno â stondin Llais y Goedwig yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru yn Llanfair ym Muallt.


Yn ystod y dydd mynychodd aelodau o’r tîm nifer o sgyrsiau oedd yn cael eu cynnal gan wahanol sefydliadau o’r sector goedwigaeth gan gynnwys digwyddiad ‘Green Gold’ Confor, y Rhwydwaith Iechyd Gwyrdd Canolbarth Cymru, lansiad Cyfoeth Naturiol Cymru o Ddiben a rôl Ystâd Goetir a sgwrs gan Goed Cadw ar sut mae ymarferion ffermio, coedwigaeth a defnydd tir yn gallu mynd law yn llaw gydag ymagweddau natur ac ymwybyddiaeth o’r amgylchedd. Mi aethon hefyd i ymweld â stondinau rhai o’n partneriaid gan gynnwys Small Woods Association, Coed Cymru, MWMAC, Focus on Forestry First, Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn ac RFS.


Ymunodd graddedigion Tir Coed, Eifion a Robin a'r stondin Llais y goedwig hefyd i arddangos eu cynhyrchion ac i arddangos eu sgiliau coed irlas wrth ochr crefftwyr eraill.


Diolch arbennig i Llais y Goedwig am roi lle i ni ar y stondin eleni eto.

Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed