Cwrs Patholeg Coed Sylfaenol

Written by Tir Coed / Dydd Iau 29 Tachwedd 2018

Yn ddiweddar, fuodd tri aelod o staff ar gwrs undydd ar Archwiliad Coed Sylfaenol wedi’i leoli ym mhencadlys MWMAC yn Llanfair ym Muallt. Yr oedd y cwrs yn edrych ar adnabod coed a allai fod yn beryglus ac achosion o afiechyd coed gan gynnwys pathogenau ffwngaidd fel Chalara Fraxineus (gwywiad yr onnen) sydd, yn anffodus yn gynyddol gyffredin yng nghoedwigoedd Cymru.

Er taw cwrs sylfaenol ydoedd, yr oedd y cynnwys yn gynhwysfawr ac wedi cynnig offer helaeth i’r staff, yn ddamcaniaethol ac yn ymarferol i asesu’r coedwigoedd mynediad cyhoeddus yr ydym yn eu rheoli.

Ar y cyfan, roedd yn ddiwrnod gwych ac roedd yn braf gweld pencadlys MWMAC a’r goedwig hyfryd y mae wedi’i leoli ynddi. Hoffwn estyn diolch i Chris Hughes, tiwtor y cwrs am ddiwrnod gwych ac am rannu ei wybodaeth helaeth ar iechyd coed a phatholeg goed gyda ni.

Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed