Croeso Eiri!

Written by Tir Coed / Dydd Iau 29 Mawrth 2018


Shwmae, Eiri dw i a dw i wedi dechrau gweithio i Tir Coed fel Swyddog Gweinyddol a Chyllid ym mis Mawrth. Rwy’n frodor o Geredigion, wedi fy ngeni a’m magu yng Nghapel Bangor ac yn byw yn Llanddeiniol erbyn hyn sydd rwy 8 milltir i’r De o Aberystwyth.

Ar ôl gadael Ysgol Penweddig, dechreuais fy ngyrfa gyda Chomisiwn Coedwigaeth Cymru a dw i wedi gweithio mewn amryw o adrannau o fewn y Comisiwn dros y 23 mlynedd, gan gynnwys Cynaeafu a Marchnata, Cyllid, Cyfathrebu a’r prosiect a dderbyniodd gyllid wrth y UE, Cynllun Busnes Ynni Coed.

Roeddwn yn ymwybodol o’r  gwaith gwych  y mae Tir Coed yn ei wneud yn ymgysylltu pobl â choedwigoedd ac y mae’n wych fy mod wedi derbyn y cyfle i ymuno â’r tîm a dechrau sialens newydd.


Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed