Lansiad Swyddogol Elan Links

Written by Tir Coed / Dydd Llun 26 Mawrth 2018

Tân, blodau pren a chreu canhwyllau oedd rhai o’r gweithgareddau ddydd Sadwrn diwethaf yn lansiad swyddogol cynllun Elan Links. Roedd y diwrnod yn nodi cychwyn swyddogol y cynllun pum mlynedd, y mae Tir Coed yn bartneriaid yn y cynllun.

I ddathlu’r bartneriaeth, trefnodd Tir Coed gweithgareddau gwaith coed irlas a chrefft byw yn y gwyllt ar gyfer plant a theuluoedd. Drwy gydol y dydd, roedd pobl yn ceisio cynnau tân gan ddefnyddio dril bwa, yn creu breichledi o frwyn, yn creu canhwyllau cyntefig a defnyddio cyllell a cheffyl eillio i greu blodau pren.

Mae gweithgareddau tebyg i hyn yn cael eu cynnig i grwpiau lleol a grwpiau o Firmingham, fel rhan o’r thema profiad ac addysg yng nghynllun Elan Links. Dros y pum mlynedd nesaf, bydd Tir Coed yn arwain ar dri phrosiect fydd yn cynnig hyfforddiant achrededig, diwrnodau gweithgaredd ac encilion preswyl.

      

Mae cynllun Elan Links yn  fuddsoddiad £3.3miliwn yn ardal Cwm Elan. Mi fydd 26 o brosiectau’n cael eu cyflwyno ar draws pedwar thema: dathlu etifeddiaeth, mwynhau Elan, profiad ac addysg Elan a gwella natur a bywyd gwyllt. Mae’r prosiectau’n cynnwys gwella’r hygyrchedd i dreftadaeth adeiladau ac archeolegol gan gynnwys yr argae hanner adeiledig Dol y Mynach, ‘pillbox’ yr Ail Ryfel Byd, gwersyll gorymdeithio Rhufeinig; gwella’r llwybrau cerdded sy’n bodoli’n barod a chreu llwybrau newydd ar gyfer cerdded/rhedeg, beicio a marchogaeth; diwrnodau gweithgaredd a chyrsiau hyfforddiant fydd yn hyrwyddo llwybrau gyrfa mewn coedwigaeth ac yn gwarchod yr adar a’r rhywogaethau prin a geir yn ucheldiroedd helaeth Cwm Elan.


Bydd Elan Links, a gyllidir gan y Loteri Genedlaethol drwy Gronfa Treftadaeth y Loteri, Ymddiriedolaeth Cwm Elan a Dŵr Cymru, yn diogelu treftadaeth unigryw ac amrywiol Cwm Elan ac yn gwella’r ardal yn y tymor hir.

Mae’r cyfleoedd sydd ar gael i bobl ymgymryd â nhw drwy cyrsiau hyfforddi Tir Coed fel rhan o Gynllun Elan Links yn newid bywyd ac mi fyddant yn cael effaith mawr.


            

Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed