Diwedd Cwrs Llanerchaeron

Written by Tir Coed / Dydd Mawrth 18 Rhagfyr 2018

Mae’r 12 wythnos wedi mynd heibio mor gyflym, mae’n teimlo fel ddoe pan oeddem ni’n gosod y camp ac yn dechrau dod i nabod y goedwig a’r fflora a’r ffawna. Mae’r hyfforddai wedi dysgu sut i hogi a defnyddio offer traddodiadol i gerfio eitemau defnyddiol.

Mae’r hyfforddai wedi ennill tipyn o hyder wrth adnabod gwahanol rywogaethau o goed ac wedi clirio ardaloedd trwchus o lystyfiant tanddyfiant. Maent yn gymwys gyda thechnegau cwympo i deneuo coed gwannach sy’n galluogi mwy o olau i ddod drwy’r canopi.


Mae’r grŵp hefyd wedi cael cyflwyniad i gwympo, ymarfer rheoli coetiroedd sy’n digwydd mewn cylchdro i gynhyrchu carthion coesau syth lluosog, sy’n ddefnyddiol ar gyfer nifer o gynnyrch.


Dywedodd y prif diwtor, Wil Nickson, wrtha i “Mae wedi bod yn wych gweithio mewn coedwig mor brydferth a digyfnewid.” “Bydda i’n gweld eisiau dod i’r goedwig, mae wedi dod yn ail gartref i mi.”


Nes i byth feddwl y bydden i’n torri brysglwyni a thorri coed yn 60 mlwydd oed, felly fi’n falch iawn o’n hunan. Mae’r tiwtoriaid wedi bod yn wybodus iawn ac yn amyneddgar, mae’r grŵp wedi bod yn hwyliog iawn gyda thipyn o hiwmor a chymrodyr.

Gyda mins peis a chacen i ddathlu fe dderbyniodd y 7 oedd wedi cwblhau eu tystysgrifau.


Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Geidwad Coedwig Llanerchaeron, Aron Roberts ac i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol am ein galluogi i gydweithio er lles yr hyfforddai a’r goedwig.


Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed