Hwyl fawr i Lowri

Written by Tir Coed / Dydd Mawrth 12 Tachwedd 2019


3 mlynedd, 5 rôl, 2 swyddfa, 1 nod!

Mae’n ddiwedd cyfnod i fi yn Tir Coed ond yn gyfnod fydd yn aros gyda fi am byth! Dechreuais i weithio gyda Tir Coed syth allan o’r Brifysgol yn rhan o Interniaeth Twf Swyddi Cymru ac ers hynny mae’r sefydliad wedi cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd i fi i ddatblygu’n broffesiynol.
Mae Tir Coed wedi tyfu tipyn dros y 3 mlynedd a hanner diwethaf, a dw i’n falch iawn o’r ffaith mod i wedi bod yn rhan o’r twf.

Hoffwn i ddymuno pob lwc i Tir Coed i’r dyfodol a dw i’n edrych ymlaen at weld beth ddaw i’r elusen sydd wedi’i wreiddio’n ddwfn yng nghefn gwlad Cymru.

  

Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed