Gadael Tir Coed

Written by Tir Coed / Dydd Mawrth 06 Mawrth 2018


Rwy’n drist i fod yn gadael Tir Coed ond rwyf hefyd yn falch iawn i fod wedi bod yn rhan o sefydlu’r prosiect LEAF yn Sir Benfro.

Cytundeb 9 mis oedd gen i gyda Tir Coed o’r dechrau fel Cydlynydd Sir Benfro felly yr oeddwn wedi bwriadu gadael teulu Tir Coed ar ddiwedd mis Chwefror 2018 ond mae dal i fod yn drist i adael.

Dechreuais i a Lowri ar y swydd yn ôl yn Mai 2017 a gyda sir gyfan i ehangu prosiect LEAF i mewn iddo, rhaid oedd cychwyn arni’n syth!

O fewn ychydig wythnosau roeddem wedi creu cysylltiadau gyda’r mwyafrif o asiantaethau cyfeirio a sefydliadau yn Sir Benfro ac wedi gosod dyddiad ar gyfer y cwrs hyfforddi cyntaf felly yr oedd dyddiad i weithio tuag ato. Gyda thiwtoriaid i’w trefnu a llefydd i lenwi’r cwrs cyntaf, roedd digon i’w wneud! 

Mewn dim o dro, roedd y cwrs cyntaf wedi’i lenwi gyda chyfranogwyr ac roeddem yn barod i adeiladu ffrâm bren gan ddefnyddio sgiliau adeiladu ffrâm bren draddodiadol mewn coetir ger Bethlehem, Sir Benfro.

Wrth i’r cwrs fynd yn ei flaen, roedd hi’n ysbrydoledig gweld y cyfranogwyr yn ymgysylltu â’r sgiliau yr oeddent yn eu hennill gyda thiwtoriaid profiadol a llawn cymhelliant yn rhedeg y cwrs, 

Mae wedi bod yn wobrwyol iawn i weld cymaint o bobl yn weithgar yn Sir Benfro drwy brosiect LEAF. Ychydig ar ôl y cwrs cyntaf, dechreuodd yr ail gwrs 12 wythnos mewn Rheoli Coetir ac roedd grŵp arall o bobl yn ymgysylltu ac yn mwynhau’r cwrs.


Mae wedi bod yn ysbrydoledig iawn i gyfarfod tiwtoriaid anhygoel a pherchnogion coetir yma yn Sir Benfro sydd wedi rhoi eu calonnau a’u meddwl i drosglwyddo eu sgiliau coetir i bobl fydd yn buddio. Mae hefyd wedi bod yn hynod o foddhaol i weld y cyfranogwyr yn ennill cymaint o’r cyrsiau, nid yn unig mewn sgiliau coetir ond yn ennill hyder ac yn buddio ar nifer o lefelau personol hefyd.

Fel garddwr a Thriniwr Coed rwy’n angerddol tuag at goed, ac rwyf yn awr yn trosglwyddo’r awenau i Adam Dawson sydd â gwybodaeth eang am goedd a choedwigoedd ac yn barod i ddatblygu gweithgareddau Tir Coed ymhellach yma yn Sir Benfro.

Byddaf yn canolbwyntio ar fy musnes trin coed eto yn awr ond y mae wedi bod yn brofiad gwych i fod yn rhan ohono gyda’r holl bobl ysbrydoledig sy’n creu teulu Tir Coed. Mae gen i hyder mawr y bydd Adam a Nancy yn sefydlu Tir Coed ym Mhenfro mewn ffyrdd y bydd o fudd i bobl sydd angen y gefnogaeth fwyaf ar hyn o bryd.

Diolch i bawb yn Tir Coed, mae wedi bod yn bleser mawr gweithio gyda phawb. Hefyd llongyfarchiadau a diolch i’r holl gyfranogwyr sydd wedi gweithio’n galed ar y cyrsiau ac wedi’u creu fel pobl; ysbrydoledig, ymgysylltiedig a gwobrwyol yn ogystal ag ail-gyflwyno’r goedwig i fywyd bob dydd i fod o fudd i bawb.

Jim Scott

Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed