Blogiau

CYSTADLEUAETH LLUN AWST

Tir Coed | 06/08/2019

Ydych chi am ennill taleb fwyd gwerth £30 ar gyfer Y Ffarmers sydd newydd ei hadnewyddu? Tagiwch ni yn eich lluniau gorau o "AWYR Y GOEDWIG" gyda'r #TirCoedCalendar ar gyfryngau cymdeithasol i gael eich cyfle i ennill a chynnwys ar ein calendr 2020.

Read more

Mae 12 wythnos arall wedi dod i ben, ond am etifeddiaeth sydd ar ôl

Tir Coed | 29/07/2019

1,152 awr, 12 wythnos, 9 hyfforddai, 2 diwtor ynghyd â llawer o chwys, ychydig o ddagrau a rhan fach o waed. Roedd yr wythnosau o'r hyn a oedd yn ymddangos fel pe na baent yn dod i ben â naddu a chlymu cymalau wedi talu bant o'r diwedd, gyda 8 o hyfforddeion yn cwblhau eu hachrediad Agored Cymru a'n tŷ crwn prydferth yn sefyll yn uchel.

Read more

Gwelliannau Coetir gan Wirfoddolwyr

Tir Coed | 29/07/2019

Yng Nghoed Tyllwyd yn Llanfarian mae ein grŵp gwirfoddolwyr wythnosol wedi bod yn gweithio'n galed ar welliannau a chynnal a chadw o amgylch ein hardal gweithdy coetir. Dros yr ychydig fisoedd diwethaf bu cyfartaledd o 16 o wirfoddolwyr yr wythnos - amrywiaeth o gyfranogwyr rhai wynebau newydd a rhai cyfarwydd – yn cwblhau dros 312 oriau o wirfoddoli!

Read more

Cwrs Coedwigaeth Ceredigion - Bron wedi cwblhau!

Tir Coed | 24/07/2019

O dan gyngor y fframiwr pren arbenigol Jamie Miller, gyda chefnogaeth Cath Rigler; mae 11 hyfforddeion cwrs coedwigaeth 12 wythnos Ceredigion eisoes wedi cyflawni cymaint. Mae'r cwrs yn rhedeg o'n safle coetir Coed Tyllwyd, yn Llanfarian, y gallem ei ddefnyddio diolch i Gyfoeth Naturiol Cymru.

Read more

Cwrs Ecoleg - Ceredigion

Tir Coed | 23/07/2019

Wnaeth 9 hyfforddeion gwario 204 oriau yn cwblhau cwrs dilyniant 4 diwrnod gan yr ecolegydd arbenigol Phil Ward: Cynhaliwyd Cyflwyniad i Ecoleg o safle coetir Coed Tyllwyd ger Llanfarian yng Ngheredigion.

Read more

Gweithgareddau Celf a Chreft I Ysgol Llwyn yr Eos

Tir Coed | 23/07/2019

Wedi rhedeg gan diwtoriaid Jenny Dingle a Maia Sparrow, mwynhaodd Uned Anghenion Arbennig yr ysgol weithgareddau celf a chrefft o'u gardd goedwig ar y safle. Y gwnaeth 36 cyfranogwyr cwblhau 36 awr yng nghyfan o weithgareddau.

Read more

CYSTADLEUAETH LLUN GORFFENNAF

Tir Coed | 03/07/2019

Eisiau ennill 2 sesiwn blasu dwy awr am ddim gyda'r Ysgol Roc a Phop - The Rock Project? Y cyfan sy'n rhaid i chi ei wneud yw tagio'ch llun gorau o "HWYL YR HAF YN YR HAUL" ar y cyfryngau cymdeithasol gyda'r #TirCoedCalendar am eich cyfle i ennill ac i ymddangos ar ein calendr 2020!

Read more

Am dro yn y goedwig gyda Bob Shaw

Tir Coed | 28/06/2019

Ddoe, fe aeth grwp o staff Tir Coed i Goed Tamsin, Capel Seion i dreulio'r diwrnod gyda Bob Shaw. Cyn dysgu am offer a gwaith coed irlas, fe aeth Bob a phawb am dro o gwmpas y goedwig. Dyma fideo byr o'r daith. 

Read more

21 milltir - 21 mlynedd o les a dysgu

Tir Coed | 20/06/2019

Mae'r cylchlythyr diweddaraf yn awr ar gael! Edrychwch i weld beth sydd wedi bod yn digwydd dros y 3 mis diwethaf gyda Tir Coed ac am ddiweddariad 6 mis ail flwyddyn LEAF.

Read more

21 miles - 21 years of wellbeing & learning

Tir Coed | 20/06/2019

The latest newsletter is now available! Take a look to find out what Tir Coed have been doing over the last 3 months and for a 6 month update of LEAF year 2. 

Read more

Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed