Blogiau

Cwrs Rheoli Coetiroedd Cynaliadwy 12 wythnos, Ceredigion - Hanner Ffordd!

Tir Coed | 11/03/2019

Am dîm! Mae yna waith gwych sydd wedi bod yn digwydd yng Nghoed Tyllwyd yn Llanfarian, gan hyfforddeion sydd hanner ffordd trwy'r cwrs rheoli coetiroedd cynaliadwy 12 wythnos yng Ngheredigion. Mae’r grŵp wedi bod yn ffocysu ar glirio llwybrau, halo coed a chreu pentyrrau cynefin gyda brash ar lan serth ym mhen deheuol y goedwig.

Read more

Trosglwyddiad gwybodaeth un dydd - Echdynnu Gwifren Uchel yn Lloches Goed Nanteos

Tir Coed | 11/03/2019

Fe wnaeth 5 o’n hyfforddeion ag un aelod o staff wedi cael mynediad i’r digwyddiad trosglwyddo gwybodaeth undydd hwn a gyflwynwyd gan MWMAC Ltd a wedi'i chyllidogan Focus Forestry First Ltd. ar Chwefror 19eg. Roedd yr amcan o’r diwrnod oedd cyfarwyddo’r cyfranogwyr efo ffyrdd o echdynnu gwifren uchel trwy ddefnyddio tractor efo system winch twmp. Yn gyffredinol, yr oedd y diwrnod yn ddiddorol ac adeiladol!

Read more

Menywod yn y Goedwig - Ruth

Tir Coed | 08/03/2019

Roedd dysgu a gwneud hyn [cwrs hyfforddi 12 wythnos] yn rhyfeddol o rymus i mi ac fel merch ond hefyd wedi ymddeol ac yn fy 60au cynnar, do’n i byth yn meddwl y byddwn i’n torri prysglwyn a thorri coed, ro’n i’n meddwl taw gwaith dyn, y lumber Jack’s oedd e a dyma fi yn 60 oed yn lumber Jil... Mae’r coed a’r natur yn dod a llonyddwch.

Read more

Menywod yn y Goedwig - Polly Williams

Tir Coed | 08/03/2019

Yn 2014, ces fy niswyddo o fy swydd fel ymgynghorydd digartref/tai ar gyfer elusen leol, roedd ‘da fi dau o blant ifanc ac roeddwn i’n barod am newid gyrfa... Dwi'n caru gweithio fel garddwr, tiwtor i Tir Coed a logio ceffyl. Rwy’n gobeithio fy mod yn ddigon lwcus i weithio yn yr awyr agored am weddill fy mywyd, ble dw i’n teimlo fwyaf ysbrydoliedig, cryf ac wedi ymlacio!

Read more

Women in the Woods - Jenny Dingle

Tir Coed | 08/03/2019

Dw i wedi bod yn gweithio ym myd addysg awyr agored ers dros 35 mlynedd mwyach... Y coed a’r mynyddoedd sy’n rhoi ymdeimlad o berthyn i mi ac mae rhannu fy ‘nghartref’ gyda grwpiau dw i’n gweithio gyda nhw sy’n dod a llawenydd i mi ac mae’n teimlo fel peth da i’w wneud... Byddwn i’n annog merched eraill if od yn rhan o’r sector goedwigaeth. Mae’r goedwig yn le da i weithio. Mae’r sgiliau yn y gwaith hyn yn wobrwyol i’w dysgu. 

Read more

Women in the Woods - Ffion Farnell

Tir Coed | 08/03/2019

Ar y diwrnod hwn yn dathlu merched, byddwn i’n dweud - Gallwch chi wneud unrhyw beth yr ydych chi’n meddwl ddigon cryf amdano, felly dechreuwch nawr. Byddwch yn garedig i’ch hunan achos dy’n ni fel merched o dan dipyn o bwysau, rhowch amser i’r hyn sy’n eich gwneud chi’n hapus a byddwch yn ymwybodol eich bod chi'r un mor alluog, deallus, creadigol a chryf a’r dynion sydd o’ch cwmpas... Dw i wedi dod ar draws rhywiaeth ac oedraniaeth yn fy mywyd proffesiynol (er ar gyfer y rhan fwyaf ohono dw i wedi derbyn parch ac anogaeth) pan ddw i wedi, dw i wedi dal fy mhen yn uchel ac wedi codi uwch ben hyn, mae’r dystiolaeth, wedi’r cwbl... yn y pwdin.

Read more

Menywod yn y Goedwig - Cath Seymour

Tir Coed | 08/03/2019

Dechreuais i gyda chreu cyllell fenyn, a wedyn llwy, a wedyn ges I’r cyfle I roi cynnig ar y polyn turn a dyna ni, dod dim troi nôl... Do’n I byth yn meddwl fy mod I’n greadigol ond drwy fenthyg syniadau bobl eraill a’u creu’n unigryw... Mae rhwybeth am ddilyn y graen a natur y goed sy’n reddfol ac yn foddhaol iawn.

Read more

Menywod yn y Goedwig - Cath Rigler

Tir Coed | 08/03/2019

Teimlais gysylltiad syth gyda ffocws cyfartal Tir Coed ar y goedwig eu hun - nid yn unig y manteision mae coedwigoedd yn eu rhoi i bobl, ond hefyd y manteision mae pobl yn eu rhoi i’r goedwig... Hefyd, dw i wedi clywed nifer o goedwigwyr gwrywaidd, sydd wedi gweithio yn y sector ers blynyddoedd, yn dweud pethau fel: “Os nad ydw i’n nabod y person yna’n barod, se well da fi weithio gyda merch, dyn nhw ddim yn dibynnu ar gyhyrau cymaint ag yn aml mae’r dechneg yn well ac meant y defnyddio’u pennau’n fwy"

Read more

Menywod yn y Goedwig - Anna Thomas

Tir Coed | 07/03/2019

Dw i wedi caru bod allan ym myd natur erioed. Ysbrydoliaeth fy ngwaith celf ers amser yw ffurfiau natur, yn enwedig y ffordd y mae pethau’n tyfu... Roedd y newid a wnaeth Tir Coed i fy mywyd yn wefreiddiol, fe wnaeth bod allan yn y coed fy newid i... Byddwn i’n argymell yn fawr i ferched gymryd rhan yn y sector goedwigaeth. Mae’n le gwych i ailgysylltu â natur. Dechrau cyfeillgarwch newydd a chael eich ysbrydoli.

Read more

Menywod yn y Goedwig - Anna Prytherch

Tir Coed | 07/03/2019

Ar hyn o bryd rwy’n gweithio fel Rheolwr Prosiect ar gyfer Iechyd a Gofal Gwledig Cymru, sydd wedi’i ariannu gan bedwar bwrdd iechyd. Yn fam sy’n gweithio, roedd gofal plant bob tro yn broblem pna odd y plant yn ifanc... Dw i hefyd yn meddwl o fewn byd Busnes, mae rhagfarn rhywedd yn dal i fodoli ar lefel ystafell fwrdd/uwch o Reolaeth. Pan ofynnwyd i fi a fyddwn i’n ystyried fod yn Ymddiriedolwr i Tir Coed, adolygais ei amcanion a theimlais yn unol â’r rhain.

Read more

Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed