Sioe Wobrwyo Flynyddol PAVS

Written by Tir Coed / Dydd Mercher 06 Mehefin 2018

Ar ddydd Mercher y 6ed o Fehefin, aeth tîm Sir Benfro i Sioe Wobrwyo Flynyddol Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro. Yn rhan gyntaf y dydd, gwahoddwyd elusennau o bob cwr o Sir Benfro i rannu gwybodaeth am eu prosiectau felly roedd yn gyfle gwych i Adam a Nancy rwydweithio gyda sefydliadau eraill fel Reconnect in Nature, Girl Guides a Workways.

Roedd hefyd yn gyfle i gwrdd a dathlu rhai pobl anhygoel sy’n rhoi o’u hamser i helpu eraill yn y gymuned. Yn ystod ail ran y diwrnod roedd y seremoni gyda 6 chategori gwahanol, roedd gan bob categori enillydd canmoliaeth, enillydd canmoliaeth uchel ac enillydd cyffredinol. Roedd yr enillwyr yn dechrau o 9 mlwydd oed ac yn cynrychioli sefydliadau gan gynnwys Oriel VC yn Hwlffordd a PATCH (Pembrokeshire Action to Combat Hardship).

Amlygwyd y digwyddiad gyda nifer o bethau gwych sy’n mynd ymlaen yn y wlad hyfryd hon diolch i garedigrwydd a gwaith caled gwirfoddolwyr gwych.


Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed