Croeso i'r Goedwig, Sir Benfro

Written by Tir Coed / Dydd Iau 12 Gorffennaf 2018

Mae tîm Sir Benfro newydd gwblhau cwrs ‘Croeso i’r Goedwig’ llwyddiannus a phleserus. Roedd y cwrs wedi’i anelu at gyfranogwyr rhwng 16 a 24 ac yn flas ar waith coed irlas a gweithio yn y coetir.

       

Cynhaliwyd y cwrs yng Ngholeg Coppicewood, Cilgerran dan arweiniad brwdfrydig Claire Turner a Tracey Styles. Yn ystod y cwrs dysgodd y cyfranogwyr am ddefnydd coed a rheoli coetir, gwaith coed irlas, defnydd diogel o offer a’r llawenydd o weithio fel rhan o dîm yn y goedwig. Gwnaethant achub ar y cyfle i wneud golosg, o gasglu a pharatoi’r coed, rheoli’r llosgi i osod y golosg mewn bagiau ar ôl iddo oeri. Roedd cymysgedd o gyfranogwyr yn nhermau gallu a phrofiad ond fe wnaeth pawb orffen y cwrs gyda gwên ar eu hwynebau a chadair 3 neu 4 coes,
defnyddiwyd nifer o offer a thechnegau gwahanol i’w greu. Cafodd bawb dystysgrif ac adborth unigol i roi hwb i’w CV hefyd.

       

Dywedodd nifer o’r cyfranogwyr faint yr oeddent wedi mwynhau creu ffrindiau newydd ac ennill gwybodaeth a sgiliau newydd, ac roedd nifer yn awyddus i ddod o hyd i ffyrdd o wneud mwy. Dywedodd un cyfranogwr:

Rwy’n teimlo fy mod wedi ennill peth hyder ac ysbrydoliaeth.

Os hoffech chi ragor o wybodaeth am gyrsiau Tir Coed yn Sir Benfro yn y dyfodol, cysylltwch â Mentor Sir Benfro ar [email protected]

Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed