Encil i Gwm Elan ar gyfer Grwpiau Birmingham

Written by Tir Coed / Dydd Mercher 04 Ebrill 2018

Mae un o’r prosiectau y mae Tir Coed yn arwain ar ran Elan Links yw dod â grwpiau o ardal Birmingham na fyddai’n ymweld fel arfer i gefn gwlad ac i Gwm Elan i ddysgu am ble y daw eu cyflenwad dŵr a’i ymgysylltu mewn gweithgareddau wedi’u teilwra.

Y grŵp cyntaf i ymweld ym mis Mawrth oedd 13 o blant ac oedolion o YMCA Sutton Coldfield. Roedd y plant yn hapus i adael yr ysgol ychydig yn gynt ar brynhawn Gwener i fynd ar dramp yn y bws mini. Er y traffig trwm allan o Firmingham fe gyrhaeddon nhw’n hwyliog, er ychydig yn anystwyth ar ôl eistedd cyhyd, i ddadbacio a mwynhau eu swper o datw stwmp a selsig.


Yn ystod y ddwy noswaith mewn llety wedi’i ariannu gan y prosiect, treuliwyd dydd Sadwrn yng nghoed Penbont gyda thiwtoriaid Tir Coed, ble ddysgodd y plant am dân ac fe geision nhw greu tân eu hunain. Dilynwyd hyn gan gerfio pren irlas i greu sbatwla. Defnyddiol iawn y noson honno i droi’r saws Bolognese.


Roedd y bore wedyn yn ddisglair ac yn heulog ar gyfer taith dywys gyda cheidwadwr Cwm Elan drwy argae Penygarreg. Dysgodd y grŵp am adeiladu’r argae a sut fyddai bywyd wedi bod fel gweithiwr pan adeiladwyd yr argae yn y 1890au.


Cwblhawyd y daith gydag ymweliad i arddangosfa’r Ganolfan Ymwelwyr, y siop a’r maes chwarae. Roedd pawb eisiau aros yno am hirach ac roeddent yn drist i orfod gadael, yn gadael gydag atgofion o’r bywyd gwyllt, y goedwig a’r dŵr.

       

Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed