Gŵyl fwyd Môr i’r Tir

Written by Tir Coed / Dydd Mawrth 21 Awst 2018

Yn gynnar ar fore Sul roedd Promenâd Aberystwyth yn llawn bwrlwm gyda busnesau lleol a sefydliadau yn gosod stondinau yn barod i groesawu cannoedd o bobl i ŵyl fwyd Môr i’r Tir.

Agorwyd yr ŵyl gan Faer Aberystwyth, Talat Chaudhri. Yn ffodus, roedd Tir Coed wedi’i leoli drws nesaf i’r bandstand oedd yn golygu ein bod yn gallu mwynhau’r gerddoriaeth drwy gydol y dydd gan Fand Samba Agogo, côr Tenovus a Louise and The Feathers.


Am 11:30am cyrhaeddodd Cragen yr anghenfil môr i’r traeth fel rhan o berfformiad Theatr Byd Bychan i addysgu pawb am wastraff môr. Os na weloch chi hi, bydd Cragen yn nifer o ddigwyddiadau ar hyd arfordir Cymru rhwng nawr a mis Rhagfyr, ewch i edrych ar eu gwefan i ddarganfod mwy.


Yn ogystal â hyrwyddo gwaith Tir Coed ar draws Ceredigion, Powys a Sir Benfro a’r cyrsiau sy’n dod, fe wnaeth plant ymgynnull o gwmpas y bwrdd crefft i greu draenogod ac angenfilod môr o gonau pinwydd a mwsogl. Drwy gydol y dydd, fe wnaeth y tîm siarad â nifer o bobl wahanol o ar draws Ceredigion a nifer o ymwelwyr oedd ar wyliau yng Nghymru.


Yn ystod y prynhawn, roedd Kevin, Intern AnTir yn cerdded o gwmpas yn gwneud holiaduron, yn casglu barn gan aelodau o’r cyhoedd am y potensial o Tir Coed yn cynnal cyrsiau hyfforddi garddwriaeth i hyrwyddo ac annog tyfu bwyd.


Roedd y digwyddiad yn un llwyddiannus er y gwynt cryf a’r glaw ar adegau. Diolch i’r trefnwyr a’r stiwardiaid am eu gwaith cyn y digwyddiad ac ar y diwrnod. Edrychwn ymlaen at ymuno â chi flwyddyn nesaf eto.

Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed