Sir Benfro - Rheolaeth Coetir Cynaliadwy

Written by Tir Coed / Dydd Iau 22 Tachwedd 2018

Wrth i’r dail gwympo, neu gael ei chwythu o’r brigau, mae brwdfrydedd yr 8 o’r 12 hyfforddai gwreiddiol yn parhau yn ddi-ofn er y newid yn y tymhorau. Mae un o’r hyfforddai wedi symud ymlaen i gyflogaeth ac un arall wedi cofrestru ar gyfer addysg llawn amser. Mae pawb yn agosáu at orffen y gwaith cwrs ac rydym yn falch o ddweud bod 5 o’r 8 sydd yn cwblhau’r cwrs yn fenywod. Mae’r pob hyfforddai wedi dod â’u cyfraniad unigryw eu hun i’r cwrs gan gynnwys un sydd â thalent am “micro whittling”.


Mae’r grŵp wedi setlo’n dda i gynefin y goedwig, gan osod camp o dan tarpolin, a gwell mynediad drwy adeiladu llwybr bwrdd a chlirio lwybrau drwy’r tangyfiant. Maent wedi bod yn meistori eu sgiliau torri brysglwyni ac wedi tynnu glasbrennau o’r drysi, drwy amddiffyn a chlirio o’u cwmpas i roi cyfle i’r goedwig adfywio.



Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed