Rheoli Coetir yn Gynaliadwy - Cwm Elan

Written by Tir Coed / Dydd Mawrth 27 Chwefror 2018

Mae Cwm Elan yn cynnig cyfleoedd i bobl ddatblygu a dysgu sgiliau newydd ac ennill hyder.

Mae'r cwrs hyfforddi 12 wythnos cyntaf sy'n cael ei redeg gan Tir Coed drwy cynllun Elan Links yn awr ar y drydedd wythnos ac y mae'n mynd yn dda. Mae'r grwp yn un amrywiol sydd wedi dod o ardaloedd ar draws Powys, ac wedi dod i adnabod ei gilydd yn gyflym ac y mae awyrgylch gwych yno.

Mae'r cwrs yn cael ei gynnal yng Nghoed Penbont, sydd wedi osod yn erbyn cefndir anhygoel argae Penygarreg, y trydydd argae Fictorianaidd i gael ei adeiladu yng Ngwm Elan. Y mae'n goedwig diddorol ac yn leoliad gwych i ddysgu am coetir. Rhyw 25 mlynedd yn ol, coed conwydd a rhododendron oedd Coed Penbont yn bennaf. Y mae gwaith cadwriaethol wedi troi'r goedwig yn ol i un llydanddail gyda cymysedd o goed derw, collen ac onnen. Y mae'n awr yn fan atyniadol i ymwelwyr gyda llwybrau mynediad gwych.

Rheoli coetir yn gynaliadwy yw thema'r cwrs ond ceir elfen o wella mynediad hefyd.


Mae'r tiwtoriaid, Colin a Dave yn hen law ar redeg cyrsiau hyfforddi ar gyfer Tir Coed. Treuliwyd yr wythnos cyntaf gwariwyd amser yn dod i adnabod y safle, ac edrych ar y prosiectau sydd wedi'u cwblhau yn y gorffennol, gan gynnwys adeiladu pont bren, grisiau a gatiau.

Rydym hefyd wedi cychwyn edrych ar y rhywogaethau coed a'r hyn sy'n eu huniaethu. Cyflwynwyd amryw o offer gwaith oren gwahanol i'r grwp a dysgwyd sut i dorri coed tan a chynnau tân yn y bowlen tân pwrpasol. . . diolch i'r drefn ni dorrwyd unrhyw fysedd yn y broses na rhoi'r goedwig ar dân.

Dros y naw wythnos nesaf mi fydd y grwp yn gwneud nifer o dasgau rheoli coetir gan gynnwys teneuo adfywiad naturiol i gynyddu lefel y golau sy'n dod i mewn i'r goedwig. Mae hyn yn fanteisiol i rywogaethau cen a bryoffytau yn ogystal ag adar y goedwig gan gynnwys gwarchodwyr coed a physgod brith. Erbyn diwedd y cwrs mi fydd y grwp yn cynllunio ac yn adeiladu darn o lwybr pren gan ddefnyddio technegau traddodiadol. Erbyn mis Mai mi fydd y grwp wedi ennill sgiliau newydd a gwybodaeth a nifer wedi cyraedd cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol o Agored Cymru. Gwaith gwych i gyd!

                   

Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed