Rheolaeth Coetir Cynaliadwy - Sir Benfro

Written by Tir Coed / Dydd Llun 17 Rhagfyr 2018

Rydym wedi cyrraedd diwedd cwrs hyfforddi 12 wythnos arall yn sir Benfro. Mae 8 o hyfforddai wedi derbyn achrediad mewn Rheolaeth Coetiroedd Cynaliadwy ac yn meddwl am yr hyn sy’n dod nesaf, mae 2 tiwtor wedi ennill profiad a hyder ac y mae coedwig arall yn sir Benfro wedi gwella o ran mynediad a rheolaeth.

Ar ddiwrnod olaf y cwrs, roedd ymdeimlad o ddiwedd tymor yn yr awyr. Rhwng y tiwtoriaid a’r hyfforddai, darparwyd gwledd o fwyd wrth ochr y tân gyda thatws pob wedi’u coginio’n berffaith, cacen foron wedi’i bobi adref a hyd yn oed castanau i’w rhostio ar y tân agored.


Gyda’n gilydd fe wnaethom ymweld â lleoliadau ble fuom yn gweithio yn ystod y cwrs er mwyn ein hatgoffa o’r hyn a gyflawnwyd. Roedd hyn yn cynnwys torri brysglwyni, creu llwybrau a llwybr bwrdd prydferth gyda rheiliau llaw er mwyn gwella’r mynediad i’r cylch derw sydd wedi bod yn ganolbwynt i’r gweithgareddau yn ystod y cwrs. Fe wnaeth pawb weithio’n galed iawn i gwblhau’r llyfrau gwaith erbyn wythnos 10 er mwyn eu hanfon i gael eu gwirio. Golygodd hyn bod amser i’r hyfforddeion weithio ar brosiectau unigol a rhannu eu sgiliau; ieir Amber wedi’i naddu yw hoff brosiect pawb!


Roedd e’n cŵl. Dysgais i gymaint am goed, torri brysglwyni a chrefft gyda grŵp gwych o bobl a thiwtoriaid. Mae Tir Coed yn sefydliad gwych.

Hoffwn ni ddiolch yn fawr i Woodland Farm am ein cael ni, a diolch mawr a da iawn i’r tiwtoriaid am gyflwyno’r cwrs mor dda, a diolch enfawr a da iawn i bob hyfforddai. Nid dyma’r diwedd, byddwn ni’n cadw mewn cysylltiad gyda’r hyfforddai i’w cefnogi wrth iddynt fynd ati i chwilio am gyfleoedd a pharhau i rannu sgiliau, gwybodaeth a barddoniaeth gyda’i gilydd.


Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed