Time to Shine :Cynhadledd 'Rank Showcase'

Written by Tir Coed / Dydd Mawrth 20 Tachwedd 2018

Cynhaliwyd cynhadledd ‘Rank Showcase’ tri diwrnod Time to Shine yn y Grand Hotel, Blackpool o Hydref y 3ydd i Hydref y 5ed 2018. Hwn oedd y gynhadledd olaf o’r tri oedd yn rhaid i mi eu mynychu’n rhan o fy interniaeth.

Ar ddiwedd y gynhadledd ddiwethaf, fe ddechreuodd fy ngrŵp baratoi ein cyflwyniad ‘arddangos’. Roedd yr ‘arddangos’ yn gyfle i ni ddweud wrth y Rank Foundation sut yr ydym wedi buddio o raglen Time to Shine dros y flwyddyn ddiwethaf. Ym mis Gorffennaf, fe wnaethom gyfarfod i drafod sut i fynd ymlaen ac yn y pen draw, creu animeiddiad ble crëwyd cymeriad o’r enw ‘Pebble’ (wedi dod o motto y Rank Foundation) a oedd yn cael ei leisio gan ddarlunio ein taith o intern nerfus i unigolyn hyderus a chyflogadwy.


Dechreuodd y gynhadledd ei hun gyda diwrnod o baratoi ar gyfer ein harddangosfa ble fuom yn ymarfer sut i gyflwyno ein hanimeiddiad. Cyrhaeddodd ein rheolwyr y diwrnod canlynol ac ar ôl cinio cyflym aethom i ddau seminar (yr oeddwn wedi’u dewis cyn dod i’r gynhadledd). Fy seminar cyntaf oedd sut i redeg busnes neu elusen foesegol ac yr oedd yr ail seminar am brosiect Nudge ym Mlymouth sydd â ffocws ar adfywio cymunedol ar lawr gwlad ble roeddent yn cynnal gweithgareddau mewn ardaloedd nad sy’n cael eu defnyddio i rymuso’r gymuned sy’n arwain at newid cymdeithasol.

Yn ystod y nos aethom i ginio ffurfiol. Roedd yn gyfle gwych i rwydweithio  gydag elusennau eraill a chwrdd â phobl newydd a diddorol.


Ar y diwrnod olaf, fe wnaethom ein cyflwyniad. Roedd yn brofiad nerfus iawn ond roedd yn gyfle gwych i ddangos i’r Rank Foundation beth yr ydym wedi’u gyflawni yn ystof y flwyddyn a faint yr oedd yn ei olygu i ni a’n elusennau.

Yn olaf, fe wnaethom dderbyn tystysgrifau  i goffáu'r flwyddyn, cyn i ni wahanu.


Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn brofiad arbennig ac y mae wedi rhoi amryw eang o sgiliau a phrofiadau i mi. Mae wedi bod yn fraint i weithio i Tir Coed a dw i wedi mwynhau fy amser yn yr elusen na fyddai wedi bod yn bosib heb interniaeth Time to Shine a haelioni’r Rank Foundation.

Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed