Gwyliwch Goedwrych Cymru, mae’r Goedwig Hir ar y ffordd….

Written by Tir Coed / Dydd Iau 28 Medi 2017

Mae prosiect y Goedwig Hir bellach ar y gweill ar ôl ei lansio’n swyddogol yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ddydd Mercher diwethaf (27 Medi). Croesawodd Cadwch Gymru’n Daclus mewn partneriaeth â Choed Cadw, sefydliadau tebyg, gan gynnwys Tir Coed, i ddathlu dechrau prosiect tair blynedd gyffrous.

Datblygwyd Prosiect y Goedwig Hir gan Gadwch Gymru’n Daclus mewn partneriaeth â Choed Cadw, gyda chymorth gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a Sefydliad Esmee Fairbairn. Gyda’i gilydd, byddant yn gweithredu’n ymarferol – gan recriwtio miloedd o wirfoddolwyr i blannu 100,000 o goed a gwella tua 120,000m o goedwrych.

Mae Prosiect y Goedwig Hir yn ceisio gwneud coedwrych yn bwysig unwaith eto. Ei nod yw codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd coedwrych a’u defnydd, amlygu eu gwerth hanesyddol ac arolygu eu cyflwr. Mae’r prosiect yn gweithredu’n ymarferol ledled Cymru gan weithio gyda pherchnogion tir a grwpiau cymunedol i reoli, gwella ac ehangu coedwrych, trwy hyfforddiant a gweithredu gwirfoddol. Mae’r prosiect hefyd yn bwriadu datblygu ap arolygu coedwrych fydd yn creu cofnodion fydd yn amlygu cyflwr presennol coedwrych ar draws Cymru.

Dywedodd Richard Bellamy, Pennaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru:

“Pan mae pobl yn ystyried ystyr ‘treftadaeth’, maent yn aml yn meddwl am adeiladau urddasol fel cestyll ac ystadau helaeth. Ond mae Cymru’n ddigon ffodus i gynnwys tirwedd ac amgylchedd naturiol prydferth hefyd sydd yn gartref i rywogaethau prin a gwerthfawr. Trwy ariannu prosiectau treftadaeth naturiol fel y Goedwig Hir, ein gobaith yw y bydd mwy o bobl yn sylweddoli bod gofalu am ein tirwedd - gan ddechrau yn ein gerddi cefn ein hunain efallai - yr un mor bwysig.”

 Lesley Jones, Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus

“Mae coedwrych yng Nghymru wedi bod yn rhan bwysig o wneuthuriad ein tirwedd ers canrifoedd. Fodd bynnag, nid ydynt yn adnodd sy’n cael eu gwerthfawrogi ac maent mewn perygl difrifol o gael eu hesgeuluso, eu niweidio a’u dileu - ac mae bellach yn hanfodol ein bod yn gweithredu.  Rydym yn llawn cyffro o fod yn gweithio gyda Choed Cadw a gwirfoddolwyr ar draws Cymru i sicrhau bod ein coedwrych yn cael eu cynnal a’u parchu am genedlaethau i ddod.

Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed