Croeso Teresa

Written by Tir Coed / Dydd Mawrth 05 Mehefin 2018

Shwmae! Teresa dw i a heddiw yw fy niwrnod cyntaf gyda Tir Coed!

Fi yw’r Swyddog Gweithredol newydd a dw i’n edrych ymlaen at weithio’n agos gyda Ffion, a helpu i reoli’r sefydliad a’r tîm, a chymryd rhan ym mhob agwedd o’r cynllunio - a chodi arian - ar gyfer datblygu yn y dyfodol.

Mae gen i gefndir mewn datblygiad cymunedol cynaliadwy (efallai bod rhai o gefnogwyr a phartneriaid Tir Coed yn fy nghofio i o fy niwrnodau gydag Ecodyfi), gan gynnwys tipyn o waith gyda gwirfoddolwyr, twristiaeth wyrdd, addysg, gweithgareddau awyr agored, bwyd a thyfiant, ac yn benodol, dw i’n mwynhau cynllunio, codi arian a chychwyn prosiectau newydd, rheoli pobl, datblygu partneriaethau a gwerthuso a monitro. Yn y bôn, dw i’n berson cyfeillgar, gan amlaf yn nerd trefnus!

Am ddiwrnod anhygoel a chadarnhaol i ymuno â thîm gwych. . .

Diolch i chi gyd am y croeso cynnes.


Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed