Menywod yn y Goedwig - Angie Martin

Written by Tir Coed / Dydd Iau 07 Mawrth 2019

Ymunais â Tir Coed gyda dros 15 mlynedd o brofiad mewn addysg - yn amrywio o Gelfyddydau Corfforol, Creadigol a Mynegiannol i Ddatblygiad Personol a Gwaith Ieuenctid. Ro’n i wedi bod yn frwdfrydig dros gefnogi unigolion gyda'u dysgu ac rydw i wedi mwynhau dylunio ffyrdd amgen i wneud y broses hon yn werth chweil ac yn gynhyrchiol i bawb.

Ar ôl byw ar gwch cul am saith mlynedd, fe wnes i gael profiad uniongyrchol o’r pwysigrwydd a’r angen i amddiffyn yr amgylchedd ac adnoddau naturiol, ac  fe wnes i ddeall fod yna llawer o ffyrdd i berswadio pobl eraill i wneud yr un peth. Roedd yna lawer o heriau wrth fod yn fam newydd ac yn symud i’r cefn gwlad yn orllewin Cymru ac roedd darganfod Tir Coed yn anadl o awyr iach! Nid yn union gallaf ddefnyddio fy mhrofiad o wahanol fathau o addysg, ond gallwn wneud hyn allan yn y coed hefyd!

Ymunais â Tir Coed fel swyddog prosiect cynorthwyol, gan gefnogi'r ddau aelod o staff eraill ar y pryd. Yn awyddus i gymryd mwy cyfrifoldeb, fe wnes i symud i mewn i swydd fel swyddog prosiect lle wnes i ddarganfod yn cloi fod fy sgiliau'n pwyso'n naturiol tuag at y broses achrediad. Wnes I edrych ar ddylunio creadigol a datblygu unedau a llyfrau gwaith a dw’i erioed wedi edrych yn ôl.

10 mlynedd ymlaen, rydw i wedi gweld cynnydd mawr mewn maint staff Tir Coed yn enwedig y statws ac enw da'r elusen! Fel rheolwr archredig, mae’r ansawdd y gwaith yn rhan bwysig iawn o’m rôl, a hyn sydd wedi helpu Tir Coed i gael ei adnabod yn lleol ac ymhlith rhwydweithiau coedwigaeth ledled y DU, am ddarparu profiadau o ansawdd uchel. Dros y blynyddoedd, rydw i wedi cynllunio amrywiaeth o unedau ac erbyn hyn mae gen i gyfle i ddatblygu cymhwyster i ychwanegu at ddarpariaeth Tir Coed. Dwi’n adnabod fod fy ngwaith yn wneud gwahaniaeth mawr a dwi’n falch iawn i allu dweud fy mod wedi help cannoedd o gyfranogwyr i allu derbyn cydnabyddedig o’r gwaith maen nhw wedi cyflawni. Mae'r llyfrau gwaith y maent yn eu cymryd yn darparu cof parhaol o'r profiadau hyn yn ogystal â bod yn ffynhonnell dystiolaeth ddefnyddiol i gefnogi'r cam unigol nesaf. Dwi wir yn caru fy swydd!

Felly, pe bai'n rhaid i mi gynnig un darn o gyngor byddai'n dweud…

“Peidiwch â chael eich cyfyngu gan ffiniau dychmygol rôl, cofiwch fod sgiliau yn drosglwyddadwy, felly dilynwch eich greddfau a mynd ati i wneud rhywbeth eich hun a'i fwynhau!”


Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed