Women in the Woods - Ffion Farnell

Written by Tir Coed / Dydd Gwener 08 Mawrth 2019


Wnaeth Ffion gymryd rhan yn y gwaith reoli coetiroedd yn ei arddegau wrth wirfoddoli yn ei choetir miliwmwm lleol, (menter ymddiriedolaeth goetiroedd) - Coed Y Bobl.

Cyn gweithio i Tir Coed mae ganddi gefndir yn y celfyddydau a pherfformiad, datblygu a rheoli prosiectau sy'n canolbwyntio ar y gymuned, codi arian, hwyluso a gwaith ieuenctid.

Dechreuodd Ffion ei hamser gyda Tir Coed fel tiwtor cefnogi ar eu liwt eu hun yn 2010 yn dod yn swyddog datblygu yn 2012. Wedi'i ysbrydoli a'i ysgogi gan ei hamser yn gweithio yn y goedwig, ac yn dyst i'r manteision cadarnhaol i bobl a'r coetir, yr oedd Ffion yn gallu datblygu a chodi arian yn llwyddiannus ar gyfer y prosiect VINE.

Ym mis Rhagfyr 2013, fe'i hyrwyddwyd i'r Prif Weithredwr yn 27 oed! Ers hynny mae Ffion wedi tyfu'r sefydliad o dîm o 4 i dîm o 18! Mae wedi cynyddu cyrhaeddiad daearyddol yr elusen ac yn ogystal â hyn, mae hi wedi cynyddu nifer y bobl y mae'n ymgysylltu â phob un flwyddyn ac mae wedi sicrhau dros £2 filiwn i gefnogi cymunedau a choetiroedd Cymru wledig.

Yn 2015, fe wnaeth Ffion adeiladu eco-ffram efo’i gŵr. Daethpwyd y pren o goetiroedd Ceredigion, gan ddangos ein bod mewn gwirionedd yn gallu tyfu ac adeiladu'n lleol; gan greu cyfleoedd cyflogaeth fwy ystyrlon a dod â choetiroedd sydd heb eu defnyddio, yn ôl i reolaeth gynaliadwy at ddibenion amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd.

Yn 2017, enwyd ei phlentyn cyntaf, ac, fel y bydd unrhyw Fam yn dweud wrthych, mae cydbwysedd bywyd teuluol a bywyd gwaith wedi cychwyn. Taith anhygoel, ond nid un hawdd!

Ar y diwrnod hwn yn dathlu merched, byddwn i’n dweud - Gallwch chi wneud unrhyw beth yr ydych chi’n meddwl ddigon cryf amdano, felly dechreuwch nawr. Byddwch yn garedig i’ch hunan achos di’n ni fel merched o dan dipyn o bwysau, rhowch amser i’r hyn sy’n eich gwneud chi’n hapus a byddwch yn ymwybodol eich bod chi'r un mor alluog, deallus, creadigol a chryf a’r dynion sydd o’ch cwmpas.
Dw i wedi dod ar draws rhywiaeth ac oedraniaeth yn fy mywyd proffesiynol (er ar gyfer y rhan fwyaf ohono dw i wedi derbyn parch ac anogaeth) pan ddw i wedi, dw i wedi dal fy mhen yn uchel ac wedi codi uwch ben hyn, mae’r dystiolaeth, wedi’r cwbl . . . yn y pwdin!

Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed