Encil YMCA yn Elan

Written by Tir Coed / Dydd Mawrth 30 Hydref 2018

Daeth grŵp YMCA Stepping Up ar encil i Gwm Elan ar ddechrau mis Hydref. Cyrhaeddodd grŵp o oedolion ifanc, gwirfoddolwyr a staff o Sutton Coldfield yn barod am rhai diwrnodau llawn gweithgareddau wedi’u trefnu o ganŵio i gystadleuaeth dalent.

   

Arweiniodd y tiwtoriaid Jenny Dingle a Polly Williams y grŵp ar gyfer antur goedwig ar y prynhawn cyntaf. Cafwyd hwyl yn gwneud modelau clai, ffenestri dail, naddu cyllyll menyn a llawer mwy.

    

Y diwrnod wedyn, fe aeth hanner y grŵp i ganŵio gyda Steve o’r ‘Elan Valley Lodge’ ac fe aeth yr hanner arall am daith o gwmpas yr ystâd a cherdded trwy argae Pen y Garreg gydag un o geidwaid  Dwr Cymru, Fiona. Roedd y ddau’n gyfle gwych i weld Ystâd Elan ac i ddysgu mwy am y dreftadaeth.


Y diwrnod canlynol, fe wnaeth y grŵp rannu eto gyda rhai yn cymryd rhan mewn crefft byw yn y gwyllt gyda Paul Reynolds a Matt Rising ble wnaethant ddysgu am dân a gwneud ychydig o goginio. Fe wnaeth gweddill y grŵp sialensiau raffau uchel oedd yn cynnwys y wifren sip a sialens pentyrru crâtiau. Gwaith tîm gwych yn ogystal â hwyl a dysgu sgiliau newydd.

     

Yr hyn oedd yn anhygoel am y grŵp hwn oedd eu hegni, brwdfrydedd a’u parodrwydd i roi cynnig ar bopeth.


      

Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed