Encilion Elan
Amdanom ni:
Mae Cwm Elan yn le arbennig iawn, gyda thirwedd, stori a hanes unigryw. Mae ein cronfeydd dŵr yn darparu 360 miliwn litr o ddŵr i Firmingham bob dydd.
Mae Elan Links yn gynllun pum mlynedd, gwerth £3.3 miliwn, wedi’i gefnogi gan Gronfa Treftadaeth y Loteri. Ei nod yw amddiffyn y dreftadaeth yng Nghwm Elan a hybu’r cyfleoedd sydd ar gael.
Mae ein hencilion ar gael drwy’r cynllun. Hoffwn ni annog pobl o ardal Birmingham i wneud cysylltiad â’u ffynhonnell ddŵr.
Mae’r pecynnau’n cael eu darparu gan Tir Coed, sy'n bartneriaid yng nghynllun Elan Links ynghyd ag Ymddiriedolaeth Cwm Elan, Dŵr Cymru Welsh Water,Community Arts Rhayader and District (CARAD) a Chyfoeth Naturiol Cymru.
Encilion:
Mae Cwm Elan, Powys wedi bod yn darparu dŵr i Firmingham ers dros 100 mlynedd. Mae’r encilion hyn yn rhoi cyfle i bobl gysylltu â’r amgylchedd naturiol.
Mae’r encilion ar gael i sefydliadau sy’n gweithio gyda phobl o grwpiau dan anfantais.
Byddwn ni’n gweithio gyda chi i greu pecyn o lety a gweithgareddau sy’n addas i’ch grŵp.
Yn ddibynnol ar eich dewisiadau, gall cynllun Elan Links gwmpasu’r costau ond mi fydd yn rhaid i chi drefnu’r drafnidiaeth. Gall barhau rhwng un a phedwar noson.
Bydd angen i chi:
- Dewis dyddiad
- Dewis llety a’r opsiynau arlwyo
- Dewis pa weithgareddau hoffai eich grŵp wneud
- Llenwi’r ffurflen archebu: https://goo.gl/forms/zOeMeU9sX...
Cysylltwch â ni drwy:
Ffôn: 01597 811527
Ebost: [email protected]
MAE GALW MAWR AM Y PECYNNAU DROS NOS RAD AC AM DDIM YMA - PEIDIWCH GOLLI’R CYFLE!
www.elanvalley.org.uk/elanlink...