Gwirfoddolwyr y mileniwm
Mae Tir Coed wedi cofrestru gyda rhaglen Gwirfoddolwyr y Mileniwm. Mae Gwirfoddolwyr y Mileniwm yn cydnabod y gwaith gwirfoddol a wneir gan bobl rhwng 14 a 25 mlwydd oed. Wedi'r 50, 100 a 200 awr gyntaf o wirfoddoli fe gewch dystysgrif, a gefnogir gan yr Adran Addysg, sydd yn cydnabod eich gwaith ac yn edrych yn wych ar eich CV neu ar gais am swydd neu i UCAS.