Creu newid cadarnhaol sy'n para
Yn Tir Coed, rydym yn credu bod pobl, cymunedau a natur yn ffynnu gyda'i gilydd.
Rydym yn creu newid cadarnhaol sy'n para drwy gysylltu pobl â'r tir a'r coetiroedd ledled Canolbarth a Gorllewin Cymru. Drwy'r profiadau hyn, mae pobl yn gwella eu llesiant, yn magu hyder, yn datblygu sgiliau ac yn darganfod cyfleoedd newydd. Ar yr un pryd, rydym yn cefnogi cymunedau cryfach ac amgylcheddau naturiol iachach. Pan fydd pobl yn ffynnu, mae natur yn elwa. A phan fydd natur yn ffynnu, mae pobl yn elwa hefyd.
Ein Heffaith
Mae popeth a wnawn yn canolbwyntio ar dri maes cysylltiedig lle rydym yn creu newid cadarnhaol.
Cefnogi Pobl i Ffynnu
Cryfhau Cymunedau
Cefnog Natur i Ffynnu
Bob blwyddyn, mae ein gwaith yn helpu i greu newid ystyrlon sy’n cael effaith ledled Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Dim ond rhan o’r stori mae’r ffigurau hyn yn ei hadrodd. Mae’r effaith wirioneddol i’w gweld ym mywydau pobl, mewn cymunedau cryfach ac mewn tirweddau mwy iach.

Darganfyddwch ein hadroddiadau effaith blaenorol:
Rydym yn cefnogi pobl dan anfantais i wella eu lles, meithrin hyder a datblygu sgiliau ymarferol drwy brofiadau ystyrlon ym myd natur.
I lawer o bobl, dyma’r cam cyntaf tuag at ailgysylltu ag eraill, ailadeiladu hyder neu ddod o hyd i gyfeiriad mewn bywyd.
Drwy ein gwaith, mae pobl yn profi:
- Gwell lles
- Mwy o hyder
- Llai o unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol
- Sgiliau a phrofiad newydd
- Cynnydd i wirfoddoli, addysg neu gyflogaeth
- Ymdeimlad cryfach o berthyn
Mae pob taith yn wahanol, ond mae pob un yn adlewyrchu grym ymgysylltu â chyfleoedd dysgu a lles yn yr awyr agored.
Rydym yn helpu i greu cymunedau cryfach a mwy cysylltiedig ledled Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Drwy weithio ochr yn ochr â grwpiau cymunedol, tirfeddianwyr, sefydliadau a phartneriaid, rydym yn cefnogi cyfleoedd i gymryd rhan, gwirfoddoli a chydweithio mewn mannau gwyrdd.
Mae hyn yn helpu i:
- Lleihau unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol
- Meithrin cysylltiadau cymunedol
- Cryfhau partneriaethau lleol
- Cynyddu gwirfoddoli a chyfranogiad
- Cefnogi cymunedau gwledig mwy gwydn
Pan fydd pobl yn teimlo’n gysylltiedig â’i gilydd ac â’u hamgylchedd, mae cymunedau’n dod yn gryfach ac yn fwy cynaliadwy.
Rydym yn gofalu am dir, coetiroedd a mannau gwyrdd eraill, gan helpu i ddiogelu, gwella a darparu mynediad at y mannau sy’n cefnogi pobl a bywyd gwyllt fel ei gilydd.
Drwy waith cadwraeth ymarferol, rheoli coetiroedd a dysgu amgylcheddol, rydym yn helpu i:
- Wella iechyd coetiroedd
- Cynyddu bioamrywiaeth
- Adfer a gofalu am gynefinoedd
- Cryfhau ymwybyddiaeth amgylcheddol
- Annog gwerthfawrogiad hirdymor o natur
Drwy gysylltu pobl â natur, rydym yn helpu i feithrin dealltwriaeth ddyfnach o’r amgylchedd a mwy o ofal amdano.
Ewch y tu ôl i'r llenni gyda Tir Coed i ddarganfod sut mae ein hyfforddiant mewn coedwigoedd yn newid bywydau ledled cefn gwlad Cymru.
DIWRNOD GYDA TIR COED : FFILM
Dewch gyda ni am ddiwrnod yn y coed gan weld y effaith ein gwaith ar fywydau ein cyfranogwyr...
Llwybrau i Ffyniant: Gwella Mynediad a Gwella Bywydau yng Nghwm Elan
Ffilm Dathliad VINE
Ar ddiwedd prosiect VINE, creuwyd ffilm i ddangos y llwyddiant.



Edrychwch ar yr hyn a gyflawnwyd gan rai o'n prosiectau!





