Coed Tyllwyd
Lleoliad:
Tyllwyd, Llanfarian, Ceredigion.
Disgrifiad:
Mae mwyafrif y safle wedi’I ddosbarthu fel planhigfa ar Safle Hynafol. Mae ystod eang o rywogaethau yno, gan gynnwys pinwydd Corsica a phinwydd polion, larwydd Ewrop a Japan, ffinidwydd Douglas a Choch, ynghyd â phocedi o Gochwydd Japaneaidd, er bod y coetir yn dichwelyd yn raddol I fod yn gartref i rywogaethau mwy brodorol. Nawr, mae dros 50% o’r coetir wedi’i feddiannu gan blanhigion llydanddail brodorol.
Sut i gyrraedd yno:
Gallwch gyrraedd ar y safle trwy deithio ar hyd llwybr beicio Ystwyth Sustrans neu mewn car trwy Lôn Tyllwyd, Llanfarian.
Mae nifer o wasanaethau bws yn stopio ym mhentref Llanfarian ac mae’r coetir wedi’i leoli rhyw filltir ar hyd Lôn Tyllwyd.
Cyfleusterau:
Mae sawl adeilad yno, gan gynnwys caban, gweithdy dan do, adeilad mawr pren â physt sy’n darparu man gweithio/cyfarfod dan do gyda phwll tân lleoliadau gwaith saer/gweithgareddau. Mae yna dŷ crwn gwlegig ymhellach i mewn I’r goedwig.
Ym mynedfa’r safle mae yna faes parcio bach a hysbysfyrddau. Mae yna 2 doilet compost.
Signal Ffôn: Da
Mynediad Cyhoeddus: Mae'r safle ar agor i'r cyhoedd.
Perchennog Safle:
Mae Coed Tyllwyd yn eiddo i Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae Tir Coed wedi bod yn cynnal cyrsiau ar y safle ers dros 20 mlynedd.