PhD ac Iechyd Gwyrdd
Rhwng 2017-2021 wnaeth Tir Coed gweithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Aberystwyth i orchwylio prosiect Doethuriaeth sy’n ymchwilio i’r potential therapiwtig coedwigoedd i wella iechyd, lles ac ymgysylltiad cymdeithasol o fewn cymunedau yng Nghymru.

Ariennir y prosiect Doethuriaeth gan KESS 2, menter wedi’i ariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop i gysylltu mentrau bach i ganolig (SMEs) gyda myfyrwyr prifysgol ôl-raddedig ar draws Cymru i alluogi cydweithrediad ar brosiectau ymchwil fydd o fudd i Gymru ym maes iechyd, yr economi ddigidol, technoleg garbon isel, a pheirianneg uwch.
