Mae Tir Coed yn darparu cyrsiau hyfforddi achrededig 12 wythnos yn rheolaidd mewn garddio organig sy'n ystyriol o natur mewn amrywiaeth o safleoedd partneriaeth yng Ngheredigion ac yng ngardd bywyd gwyllt hardd Tir Coed wrth ymyl ein safle hyfforddi coetir yng ngogledd Ceredigion; Gerddi Tyllwyd.
Mae cyrsiau hyfforddi yn ymarferol iawn ac fel rheol yn rhedeg am 2 ddiwrnod bob wythnos am gyfnod o 3 mis.
Os ydych chi eisiau gwybod mwy am y cyrsiau a sut i wneud cais cysylltwch â ni
Ariennir y prosiect hwn gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Adfywio Cymunedol y DU.
Mae Cronfa Adfywio Cymunedol y DU yn rhaglen Llywodraeth y DU ar gyfer 2021/22. Ei nod yw cynorthwyo pobl a chymunedau sydd â’r angen mwyaf ledled y DU i beilota rhaglenni a dulliau newydd i baratoi ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Mae’n buddsoddi mewn sgiliau, cymuned a lle, busnes lleol, a chefnogi pobl i ddod o hyd i waith. Am fwy o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/...