Addysgu Digidol
Datblygodd Prosiect Peilot Dysgu Digidol lyfrau gwaith digidol ar gyfer dau gwrs dysgu awyr agored achrededig. Mae’r rhain yn rhan o gymhwyster Dysgu yn yr Awyr Agored Agored Cymru a chymhwyster Gofalu Tir Coed ei hun. Profodd Tir Coed y llyfrau gwaith digidol gan ddefnyddio iPads gyda dysgwyr mewn lleoliadau coetir a dysgodd sut i reoli prosesau asesu cysylltiedig yn ddigidol. Roedd gwerthuso yn agwedd arwyddocaol o'r prosiect a buom yn gweithio gyda 20 Degrees Consultancy i werthuso'r prosiect.
Crynodeb gweithredol
Derbyniodd Prosiect Peilot Dysgu Digidol arian drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
Datblygodd y prosiect weithlyfrau digidol ar gyfer cyrsiau dysgu awyr agored achrededig a chyflawnodd 2 gwrs hyfforddi 12 wythnos o hyd pan brofodd Tir Coed y llyfrau gwaith digidol a'r asesiad digidol cysylltiedig.
Roedd cromlin ddysgu serth iawn i staff sy’n dychwelyd o seibiant, diffyg arbenigedd digidol o fewn y sefydliad, ac ymateb negyddol yn bennaf i ddefnyddio iPads a llyfrau gwaith digidol yn nodweddu’r cwrs cyntaf. Fodd bynnag, roedd hyn yn llawer gwell erbyn yr ail gwrs ar ôl hyfforddiant pellach, rhannu sgiliau ac integreiddio dysgu.
Llwyddwyd i fodloni bron pob un o ganlyniadau'r prosiect. Roedd canlyniadau cadarnhaol i ddysgwyr yn cynnwys lles, iechyd a manteision cymdeithasol. Ymatebodd rhai dysgwyr yn dda i'r dechnoleg a rhai ddim felly; roedd yr ymatebion mor amrywiol â'r dysgwyr eu hunain.
Mae Tir Coed yn parhau i werthuso dysgu yn fewnol, lledaenu dysgu yn allanol ac ymchwilio i opsiynau digidol pellach. Disgwylir y bydd angen buddsoddiad, datblygiad a hyfforddiant pellach pe bai'r sefydliad yn penderfynu dilyn dysgu digidol fel mater o drefn. Mae defnyddio TG at ddibenion monitro, fodd bynnag, yn debygol iawn.