Rock Park (Coetir)


Lleoliad:

Canol tref Llandrindod, LD1 6AE. Cyfeirnod grid SO 056 606

Disgrifiad:

12 erw o goetir aeddfed ynghyd â mannau glaswelltog a llwybrau troed. Mae yma hefyd rhaeadrau, ffynnon ac adeilad Sba Fictoraidd gwreiddiol.

Sut i gyrraedd yno:

Os ydych yn gyrru mae maes parcio am ddim ym Mharc y Creigiau drws nesaf i’r tŷ coffi a hen adeiladau’r sba, cod post LD1 6AE. Mae’r parc ddeg munud ar droed o’r arhosfan bysiau a’r orsaf drenau. Mae amryw o fysiau yn gwasanaethu’r ardal gan ei gwneud yn hygyrch ar fws uniongyrchol o Aberhonddu, y Drenewydd, Llanidloes, Rhaeadr, Lanfair-ym-Muallt, Ceitun, Maesyfed Newydd a Llanbister.

Mae ardal gysgodol, meinciau picnic a llwybrau troed. Ar hyn o bryd mae’r toiled agosaf 3 munud i ffwrdd ar droed. Rydym yn adeiladu toiled compost yr haf hwn. Mae safle Tir Coed 5 munud ar droed o’r maes parcio a’r fynedfa i gerddwyr i’r parc.

Signal Ffôn: Da

Mynediad Cyhoeddus: Mae’r safle ar agor i’r cyhoedd ac yn boblogaidd gyda cherddwyr cŵn.

Perchennog y safle:

Cyngor Sir Powys

EISIAU GWYBOD MWY AM EIN CYRSIAU?

Diddordeb?

Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed