Astudiaethau Achos

DI-WAITH > COEDWIGWR CYMDEITHASOL A PHERCHENNOG COEDLAN

Di-waith ▸ Prosiect Tir Coed ▸ Cwrs llif gadwyn Tir Coed ▸ Gweithiwr cynorthwyol Tir Coed ▸ Arweinydd gweithgareddau Tir Coed ▸ Perchennog coedlan ▸ Cyflogaeth gyda menter gymdeithasol Tir Coed, Wisewoods Wales ▸ Hunangyflogedig
“Dechreuais wirfoddoli gyda Tir Coed ar ddechrau'r gaeaf a dim posibiliad o unrhyw beth tebyg i waith ystyrlon ar y gorwel. Wedi siwrnai gyffrous roeddwn yn ennill cyflog i fyw gan gyflawni gwaith ystyrlon yn yr awyr agored! Dw i'n dal i weithio gyda Tir Coed yn hyfforddwr llawrydd ar adegau nawr, rhai blynyddoedd yn ddiweddarach, a dwi'n berchen ar goedlan fy hunan.”
Darllenwch y stori gyfan fan hyn
Social Forester And Woodland Owner
Mental Health Problems

PROBLEMAU IECHYD MEDDWL > GWEITHIWR CYNORTHWYOL TIR COED A MENTER GOETIROL

Di-waith gyda phroblemau iechyd meddwl a chorfforol ▸ 2 x cwrs hyfforddi Tir Coed ▸ Achrediad lefel un mewn rheoli coetiroedd cynaliadwy a lefel 2 cadwraeth ymarferol ▸ gwirfoddoli ar ddiwrnodau agored a digwyddiadau Tir Coed ▸ yn derbyn hyfforddiant ar hyn o bryd i fod yn weithiwr cynorthwyol ar gyfer Tir Coed & wedi derbyn cefnogaeth i ddatblygu menter goetirol gyda 3 cyfranogwr arall o brosiectau Tir Coed
“Mae Tir Coed wedi helpu fi i oresgyn rhai problemau personol, dw i wedi dioddef o broblemau iechyd meddwl a chyflyrau corfforol dros amser hir. Ers i mi ddechrau mynychu'r sesiynau mae fy iechyd meddwl wedi gwella'n fawr ynghyd â'm cyflwr corfforol a dw i wedi derbyn addysg ardderchog hefyd. Dw i'n dysgu mwy am fywyd gwyllt a rheoli coetiroedd bob dydd, dros y flwyddyn diwethaf dw i wedi bod yn ymwneud mwy a mwy gyda gwirfoddoli wrth i'm iechyd wella, dyma'r lles y mae Tir Coed yn gwneud i'm bywyd i ac eraill. ”
Darllenwch y stori gyfan fan hyn

DI-WAITH > GWEITHIWR GWASANAETHAU COEDWIGAETH

Diweithdra ▸ Prosiect Tir Coed ▸ Gwirfoddoli ar gyfer Tir Coed ▸ Gweithiwr cynorthwyol Tir Coed a hyfforddiant ▸ Prentisiaeth coedwigaeth Tir Coed ▸ Swydd gyda chwmni coedwigaeth
“Mae'r brentisiaeth wedi agor drysau i mi gyda gwaith coedwigaeth go iawn, wedi rhodi llu o gyfleoedd i mi a dw i wedi cwrdd â phobl newydd, felly dw i wedi cael mwy o gysylltiadau lleol. Cefais llond trol o hwyl a dysgais llawer.”
Darllenwch y stori gyfan fan hyn
Woodland Service Worker
Redundant

WEDI DISWYDDO > ARWEINYDD GWEITHGAREDDAU TIR COED

Derbyn diswyddiad ▸ mynychu nifer o gyrsiau Tir Coed ▸ hyfforddwr cynorthwyol llawrydd ▸ Arweinydd gweithgareddau Tir Coed
“Dw i ddim wedi buddsoddi rhyw lawer yn fy addysg na fy natblygiad personol dros y blynyddoedd diwethaf, ond ers gweithio/dysgu gyda VINETir Coed dw i wedi dysgu llawer iawn! Mae'r cynllun hefyd wedi fy nghynorthwyo i ennyn hyder yn fy sgiliau ac o ganlyniad dw i wedi datblygu fy musnes garddio a dw i newydd orffen fy swydd tirlunio cyntaf. Mae'n anodd dod o hyd i rhywle i ddysgu'r sgiliau mae Tir Coed yn eu dysgu, roedd y rhan fwyaf ohonynt yn ran o fywyd bob dydd rhyw 30 – 40 mlynedd yn ôl, ond erbyn hyn wedi mynd yn angof.”
Darllenwch y stori gyfan fan hyn

MAM SENGL DI-WAITH > HYFFORDDWR TIR COED TUTOR & CREFFTWRAIG PREN LLWYDDIANNUS

Di-waith ▸ Prosiect Tir Coed ▸ Prosiect dilyniant Tir Coed (Hadau) ▸ Gweithiwr cynorthwyol Tir Coed ▸ Hunangyflogedig ac yn gwerthu cynhyrchion coetirol ▸ Hyfforddwr Tir Coed
“Fel crefftwraig hunangyflogedig tlawd, roedd cymryd rhan ym mhrosiect Medi'r Ddawn yn ddiddorol ac yn amhrisiadwy i mi. Ar un ochr y teulu roedd fy nghyndadau yn glocswyr ac yn seiri troliau, ac ar yr ochr arall roeddent yn ffermwyr a choedwigwyr, mae'r profiad wedi dod a mi yn agosach i'm hanes fy hun.”
Darllenwch y stori gyfan fan hyn
Struggling Crafter
Social Forester And Woodland Owner

DI-WAITH > SAER & CREFFTWR HUNANGYFLOGEDIG

Di-waith ▸ Cwrs hyfforddi Tir Coed ▸ Crefftwr tlawd & saer rhan-amser ▸ Prosiect dilyniant crefft Hadau Tir Coed ▸ Hunangyflogedig yn gwerthu crefftau pren irlas yn lleol
“Dysgodd Tir Coed llawer i mi am yr hyn roeddwn eisiau ei wneud gyda fy mywyd. Bu hefyd yn ysbrydoliaeth i mi benderfynu fy mod yn medru cyflawni fy amcanion. Bu'r sgiliau a ddysgais ar y cwrs o gymorth i mi gael peth gwaith rhan amser yn adeiladu toiledau cwrtaith fframyn pren unigolyddol, bu'n hwb mawr i'm hyder ac yn ysbrydoliaeth i ddatblygu hobi yn fusnes dichonadwy.”
Darllenwch y stori gyfan fan hyn

WEDI DADYMAFAEL Â'R COLEG > GWEITHIWR COETIR HUNANGYFLOGEDIG

Wedi dadymafael â'r coleg ▸ Prentisiaeth Tir Coed ▸ yn hunangyflogedig yn gweithio'n hapus gyda grwpiau mewn coedlannau
“Mae wedi cynyddu fy hyder a'm sgiliau cymdeithasol, ynghyd â'm ymdeimlad o hunan-werth; dw i wedi esgyn ym mhell uwchben fy nisgwyliadau bychain. Trwy'r arddangosiadau dw i wedi datblygu sgiliau i ryngweithio fel aelod o dîm ac arweinydd, mae rhyngweithio gyda'r cyhoedd nawr yn brofiad llawer mwy cyfforddus i mi. Mae fy lleoliad gwaith wedi bod yn gyfnod hollbwysig, gan alluogi i mi ddatblygu sgiliau a fydd yn ddefnyddiol ym mha bynnag faes dw i'n dewis ei ganlyn. Dw i wedi gwneud cysylltiadau fydd yn galluogi i mi ennill gwaith yn y dyfodol.”
Unengaged With College
Teenage Father Neet

TAD YN EI ARDDEGAU A NEET > GWEITHIWR COETIR HUNANGYFLOGEDIG

NEET & tad yn ei arddegau ▸ Cwrs hyfforddi Tir Coed ▸ Prentisiaeth Tir Coed ▸ Cwrs llif gadwyn ▸ Gweithiwr coetir a gweithiwr llif gadwyn
“Mae gwybod bod gen i sylfaen gadarn ar gyfer gyrfa mewn coedwigaeth yn tynnu peth o'r ofn allan o fod yn dad yn fy arddegau. Dw i'n gwybod beth dw i eisiau ei wneud nawr – gweithio yn y coed. Roedd cwrdd â phobl newydd a gwneud cysylltiadau yn rhan mawr o'r profiad, ac mae ennill tystysgrif llif gadwyn yn ddefnyddiol iawn. Mae'r brentisiaeth wedi rhoi fy meddwl ar waith ac wedi rhodi'r hyder a'r cyfrifoldeb i mi symud ymlaen.”

Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed