MAM SENGL DI-WAITH > HYFFORDDWR TIR COED TUTOR & CREFFTWRAIG PREN LLWYDDIANNUS
Stori Cerys
Nôl yn 2011, cefais fy hun yn fam sengl i 2 blentyn ifanc. Nid oeddwn wedi bod yn y gweithle ers nifer o flynyddoedd ac roeddwn wedi clywed am gyrsiau yn y coed gyda Bob Shaw a Tir Coed, ac wedi mynychu diwrnod agored a'i fwynhau yn fawr iawn. Mae gennyf radd mewn Cerflunio Celfyddyd Gain (ers talwm), a gyda hon yn fy mhoced ôl penderfynais mae hwn oedd y cwrs gyda'r cyfle gorau i'm helpu yn ôl i weithio. Enillais gymhwyster lefel 3 mewn Rheoli Coetiroedd Cynaliadwy, a cofrestrais yn hunangyflogedig yr haf canlynol. 'Dwi wedi bod yn hyfforddwr cynorthwyol gyda Tir Coed ar nifer o gyrsiau bendigedig, rhai yn fyr a rhai yn hir, o ysgol y goedwig gyda phlant cyn-ysgol i adeiladu blychau adar gydag unigolion ag anawsterau dysgu yng Nghanolfan Hamdden Aberystwyth.
Yna cymerais ran ym mhrosiect Medi'r Ddawn, profiad a fu'n ddiddorol iawn ac yn hynod o werthfawr i mi fel crefftwraig hunangyflogedig tlawd. Ar un ochr y teulu roedd fy nghyndadau yn glocswyr ac yn seiri troliau, ac ar yr ochr arall roeddent yn ffermwyr a choedwigwyr, mae'r profiad wedi dod a mi yn agosach i'm hanes fy hun. 'Dwi nawr yn cerfio llythrennau ar feinciau cofiant ac yn creu modelau pren o chwilod o rywogaethau ymledol ar gyfer y llywodraeth. 'Dwi'n dal i fod yn hoff o wirfoddoli ac wedi cynorthwyo gyda 2 brosiect adeiladu yng Nghoed Tyllwyd, h.y. y tŷ bach cwrtaith a'r tŷ crwn. Mae'n waith sydd yn twymo'r enaid a 'dwi'n caru rhoddi yn ôl i'r gymuned a'r goedlan a roddodd gymaint i mi.