Gweithio gyda ni
Mae gan Tir Coed 30 aelod o staff sydd yn cydweithio yn agos er lles cymunedau, tir a choetiroedd Cymru.
Swyddi gwag
Cyfleoedd Gwaith
Nid oes unrhyw swyddi gwag ar hyn o bryd.
Ymddiriedolwyr
Mae bwrdd o 9 ymddiriedolwr brwdfrydig a gwybodus yn llywodraethu dros Tir Coed, gan ddod â chymysgedd o brofiad o'r sector breifat, y sector gyhoeddus a'r drydedd sector gydag hwy.
Yn ystod y cyfnod cyffroes hwn, teimlwn ei fod yn bwysig i ofyn i bobl newydd ymuno a'n Bwrdd o Ymddiriedolwyr. Mae'r rôl yn cynnwys gwirfoddoli tua 7 - 10 diwrnod y flwyddyn o'ch amser (gan gynnwys ebyst) i dywys a chefnogi'r Elusen. Telir treuliau rhesymol. Ar gyfer post yr Ymddiriedolwr, mae Tir Coed yn edrych i annog merched, pobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol, a phobl ifanc i ymgeisio, yn enwedig y rheiny gall ddod a profiad cyllid, Adnoddau Dynol a chyfreithiol i'r Bwrdd, er hyn ystyrir pawb a diddordeb yn ol teilyngdod.
Cysylltwch â ni os hoffech ymuno â bwrdd ymddiriedolwyr Tir Coed neu os oes gennych ddiddordeb yn ein gwaith.
Arweinwyr Gweithgareddau a Gweithwyr Cynorthwyol Llawrydd
Mae Tir Coed yn cyflogi dros 50 hyfforddwr arbenigol llawrydd er mwyn ymgymryd â'r gwaith hynod bwysig o arwain grwpiau a rhedeg gweithgareddau a hyfforddiant ar y tir ac yn y coed.
Os ydych yn Arweinydd Gweithgareddau Llawrydd ac yn meddwl y gallech ddarparu gweithgareddau diddorol, anfonwch CV a llythyr esboniadol atom gan fanylu ar eich profiad perthnasol a'ch argaeledd. Cysylltwch â ni os hoffech fanylion pellach ar sut i ymwneud â phrosiectau Tir Coed.
Y llawenydd gwirioneddol o weithio i Tir Coed, yw gweld taith gyflawn un o’n hyfforddeion, yn cychwyn ar eu taith newydd gyffrous, gan gymryd hyder a phositifrwydd o ddysgu ym myd natur gyda’n tîm gwych.
Martyn, Cydlynydd Sir Gaerfyrddin