AMDANOM NI
Mae Tir Coed yn elusen sydd yn cysylltu pobl â tir a choetiroedd drwy wirfoddoli, hyfforddiant a gweithgareddau wedi eu teilwra er mwyn cynyddu lles, datblygu sgiliau a gwella coetiroedd er lles pawb.

Dros yr 23 mlynedd diwethaf mae Tir Coed wedi datblygu model ymgysylltu gynhwysfawr sy'n cynnal unigolion wrth iddynt ddatblygu, o'r cyswllt cyntaf i gyflogaeth. Mae'r holl waith a wneir gan wirfoddolwyr a hyfforddedigion yn gwella iechyd ein tir a choetiroedd a'u hygyrchedd, sydd o fantais i'r gymuned gyfan.
Ein hamcanion
GWELEDIGAETH
Cymunedau gwledig cynaliadwy sydd yn rhan o'u hamgylchfyd naturiol.
CENHADAETH
I ddatgloi potensial tir a choetiroedd i ddarparu cyfleusterau cymunedol, gweithgareddau addysgol a iachus, a chreu cyfleoedd gwaith ar gyfer unigolion dan anfantais yng nghefn gwlad Cymru. Bwriadwn wneud newid hirdymor er gwell.






EIN MODEL
Dros yr 23 mlynedd diwethaf, mae Tir Coed wedi dod yn arbenigwyr ar ddulliau o ymgysylltu pobl â gweithgareddau mewn tir a choetiroedd. Dangosa'r model canlynol y ddamcaniaeth sy'n sylfaen i'r newid a welir gan ein cyfranogwyr wrth
MODEL YMGYSYLLTU TIR COED

HANES
Yn gweithio gyda chymunedau a tir a choetiroedd ers 1998

Ein Gwerthoedd
Lleol a Gwledig
Yn falch o fod yn sefydliad ar lawr gwlad yng Nghymru gydag ymdeimlad cryf o hunaniaeth a lleoliad.
Mae ein hangerdd am rannu rhyfeddodau’r coetiroedd a chefn gwlad yn adlewyrchu pwysigrwydd a grym y tir a’r coed i’r bobl leol, iechyd, yr economi, diwylliant a’r amgylchedd.
Parch a Gofal
Rydym ni’n helpu amddiffyn, gwella, cynnal a gofalu am iechyd a lles yr amgylchedd, cymunedau lleol, unigolion, treftadaeth a diwylliant Cymru – trwy ein cyfathrebiadau, ein gweithredoedd a’n hethos.
Rydym yn canolbwyntio ar wneud newid cadarnhaol parhaus trwy ddatgloi potensial y tir a’r coed, meithrin ac adeiladu gwydnwch o fewn ein cymunedau lleol.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein defnydd o’r iaith Gymraeg yn barhaus.
Cynhwysol
Yn falch o fod wedi ymrwymo i ddiwylliant llawn tegwch, urddas a pharch tuag at bawb, rydym yn cymryd camau cadarnhaol i hyrwyddo a chynnal cydraddoldeb, amrywiaeth a chynwysoldeb trwy gydol y sefydliad.
Rydym yn canolbwyntio ar gyfiawnder cymdeithasol a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymunedau wedi’u hymyleiddio. Rydym hefyd yn goresgyn rhwystrau ac yn cefnogi anghenion lles a hyfforddiant unigolion.
Ymatebol
Adnabod a chefnogi anghenion cymunedau a byd natur.
Yn weithredol, rydym yn ailgysylltu ac yn ymgysylltu â chymunedau trwy ddefnyddio’r iaith, y tir a’r coed i wella ymwybyddiaeth, sgiliau a dealltwriaeth o’n lle ni o fewn byd natur, gan wella iechyd yr amgylchedd a’r economi leol er budd pawb.
Dysgu ac Ysbrydoli
Deinamig a mentrus, creadigol a diduedd – rydym yn herio, yn arloesi ac yn dathlu.
Rydym yn anelu at adfywio, atgynhyrchu a diweddaru arferion rheoli tir a choetiroedd traddodiadol, gan ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf trwy gyfleoedd dysgu a fydd yn gosod sgiliau ac yn datblygu dealltwriaeth o sut i amddiffyn yr amgylchedd ar gyfer dyfodol cynaliadwy.
Gan ddysgu’n barhaus o’n rhaglenni darpariaeth ein hunain, rydym yn rhannu arferion da ac yn cydweithio er mwyn dysgu gan eraill.
Ansawdd
Trwy ymddwyn gyda gonestrwydd ac arbenigedd, mae ansawdd wrth wraidd popeth yr ydym yn ei wneud.
Trwy ddeall a chynnal proses hunan-asesu ac adolygu parhaus, rydym wedi ymrwymo i ddarparu profiad cadarnhaol, gwerthfawr, cadarn o ansawdd uchel i bawb.
Rydym yn croesawu ac yn gwrando ar ein hadborth er mwyn gwella ac ehangu ein darpariaeth yn barhaus.
EIN TÎM
Cyfarfod â'r tîm

Prif Weithredwr
Swyddog Gweithredol
Rheolwr Cyllid
Swyddog Gweinyddol a Chyllid
Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu

Rheolwr Achredu
Swyddog Hyfforddiant ac Achredu

Rheolwr Prosiect

Swyddog Datblygu
Cydlynydd Ceredigion

Mentor Ceredigion

Arweinwr Gweithgaredd Ceredigion

Arweinwr Gweithgaredd Ceredigion

Cydlynydd Sir Gaerfyrddin

Mentor Sir Gaerfyrddin

Arweinwr Gweithgaredd Sir Gaerfyrddin

Arweinwr Gweithgaredd Sir Gaerfyrddin

Cydlynydd Sir Benfro
Mentor Sir Benfro

Arweinwr Gweithgaredd Sir Benfro

Arweinwr Gweithgaredd Sir Benfro

Cydlynydd Powys
Mentor Powys

Arweinwr Gweithgaredd Powys

Arweinwr Gweithgaredd Powys

Arweinydd Peilot AnTir

Cydlynydd Prosiect Dichonoldeb

Cydlynydd Datblygiad Safle & Gwirfoddolwr
Cynorthwyydd Prosiect
YMDDIRIEDOLWYR
Adrian Wells (Cadeirydd) | Anna Prytherch | Guy Evans | Hannah Wilcox Brooke
Leila Sharland | Roger Thomas | Ross Lister
Tabitha Binding | Sue Ginley
Hyfforddwyr llawrydd

Ein Cynnig Cymraeg

Mae Tir Coed yn sefydliad sy’n falch iawn o’i wreiddiau Cymreig. Rydym yn awyddus i gysylltu cymunedau â’n gwaith yn weithredol trwy ddefnyddio’r iaith Gymraeg. Rydyn ni’n gweithredu’n ddwyieithog ym mhob agwedd o’n gwaith ac rydym wedi ymrwymo’n llawn i ddatblygu ac ehangu ein defnydd o’r iaith Gymraeg yn barhaus.
Fel rhan o’n Cynnig Cymraeg:
Gallwch chi:
- Gymryd rhan mewn cyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg*, a chael mynediad at adnoddau cefnogol, yn Gymraeg ac yn ddwyieithog
- Cysylltu â ni yn Gymraeg dros y ffôn, ar e-bost neu’r cyfryngau cymdeithasol
- Siarad Cymraeg â staff a gwirfoddolwyr sy’n gwisgo’r bathodyn ‘Iaith Gwaith’ oren
Byddwn yn:
- Annog ein staff i ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg a rhoi’r cyfle iddynt ddysgu
- Parhau i gynnal ein gwefan sy’n hollol ddwyieithog
*Lle nad oes tiwtoriaid sy’n siarad Cymraeg ar gael, gallwn gynnig gwasanaeth cyfieithu. Rydym yn bwriadu ehangu ein darpariaeth gyfredol.
Rydym yn croesawu adborth am ein darpariaeth iaith Gymraeg fel y gallwn barhau i wella.
EIN PARTNERIAID