Parc Coetir Mynydd Mawr
Lleoliad:
Tymbl, Sir Gaerfyrddin. SA14 6HU. Cyfeirnod Grid SN538128.
Disgrifiad:
73 erw o hen dir glofa sydd wedi’i adfywio fel cymysgedd o goetir llydanddail a glaswelltir gyda rhwydwaith o lwybrau troed.
Sut i gyrraedd yno:
Mynedfa i'r parc yn Y Tymbl Isaf, SA14 6HU. Mae gwasanaethau bws 128 a 129 o Cross Hands yn gwasanaethu'r ardal hon gan ei gwneud yn hygyrch ar fws o Lanelli, Rhydaman a Chaerfyrddin, a'r ardaloedd cyfagos.
Cyfleusterau:
Toiled compost, dau gwt cysgodol, un tŷ crwn traddodiadol, meinciau picnic a llwybrau troed. Mae prif ganolfan Tir Coed ychydig bellter o'r maes parcio a 10 munud ar droed o'r safle bws agosaf.
Signal Ffôn: Da
Mynediad Cyhoeddus: Mae'r safle ar agor i'r cyhoedd ac yn fan poblogaidd ymysg cerddwyr cŵn. Mae yna nifer o lwybrau troed a llwybrau i'w harchwilio.
Perchennog Safle:
Mae Parc Coetir Mynydd Mawr yn Barc Gwledig sy’n eiddo i Gyngor Sir Caerfyrddin ac yn cael ei reoli ganddo. Mae grŵp 'Cyfeillion y Coetir' yn cefnogi'r safle.