Havergardd (Tyfu)
Lleoliad:
Hwlffordd, Sir Benfro.
Cyfeiriad Grid: SM 95796 15374.
What3Words: ///farmer.sounds.once
Disgrifiad:
Traean o erw o hen waith nwy tref. Prin yw’r dystiolaeth o’r hen ddiwydiant ar y safle sydd bellach wedi’i atbwrpasu’n ardd gymunedol, ac hefyd yn gartref i ddigwyddiadau lleol.
Sut i Gyrraedd Yno:
Mae mynedfa Havergardd ger Fortune’s Frolic. Gan anelu i’r gorllewin ar yr A40 i ganol tref Hwlffordd ar ôl cyrraedd yr ail gylchfan cymerwch yr allanfa chwith gyntaf i Uzmaston ar y Ffordd Newydd ac yna’r troad nesaf i’r dde ychydig bellter ymlaen. Ewch heibio adeiliad yr TA ac ewch o dan bont y rheilffordd ac mae fasle Havergardd yn syth wedyn ar y dde.
Mae canol tref Hwlffordd lai na 10 munud ar droed lle byddwch yn dod o hyd i’r safle bws agosaf.
Mae gan Hwlffordd gysylltiadau rheilffordd da yng ngorsaf drenau Hwlffordd.
Cyfleusterau:
Toiled compost, un twnnel polythen mawr gyda dau blanwr uchel y tu mewn, 14 o blanwyr uchel yn yr awyr agored, meinciau picnic a phwll gydag ardal o flodau gwyllt. Mae yna maes parcio ychydig heibio’r safle wrth y fyndefa i Fortune’s Frolic, dim ond 2 funud ar droed o Havergardd.
Mae canol tref Hwlffordd lai na 10 munud ar droed lle cewch ddod o hyd i’r safle bws agosaf.
Signal Ffôn: Ardderchog
Mynediad Cyhoeddus: Mae’r safle ar agor i’r cyhoedd ac mae croeso i bawb pan fydd yr ardd gymunedol yn cynnal sesiynau gwirfoddoli ar ddydd Llun a dydd Gwener. Cynhelir digwyddiadau eraill a drefnir ar y safle megis diwrnodau hwyl i’r teulu a digwyddiadau rhannu sgiliau gan gynnwys ein cyrsiau Garddwriaeth Gynaliadwy poblogaidd.
Perchennog y Safle:
Mae’r safle yn eiddo i Wales and West Utilities, ar brydles i Gyngor Tref Hwlffordd ar hyn o bryd, ond mae Havergardd yn ceisio cymryd y brydles wrth symud ymlaen.