WEDI DISWYDDO > ARWEINYDD GWEITHGAREDDAU TIR COED
Stori Branwen
Cefais fy niswyddo o'm swydd yn y sector wirfoddol yn Ebrill 2014 wedi 10 mlynedd o weithio yno. Ychydig cyn gorffen fe ymgeisiais am waith fel hyfforddwr cynorthwyol llawrydd gyda phrosiect VINE Tir Coed. Dros y ddwy flynedd diwethaf 'dwi wedi mynychu nifer o gyrsiau a ddarparwyd gan Tir Coed, 'dwi hefyd wedi bod yn hyfforddwr cynorthwyol ac yn arweinydd gweithgareddau ar nifer o gyrsiau, o celf yn y tirwedd i reoli coetiroedd.
'Dwi heb fuddsoddi rhyw lawer yn fy addysg na fy natblygiad personol dros y blynyddoedd diwethaf, ond ers gweithio/dysgu gyda Tir Coed 'dwi wedi dysgu llawer iawn! Dysgais sut i ddefnyddio amrediad o offer llaw, dysgais sut i ofalu am goetiroedd a sut y dylai rheoli coetiroedd llwyddiannus ymddangos, 'dwi hefyd wedi dysgu sut i saernïo ffurfiau pren a chelfi. Mae'r cynllun hefyd wedi fy nghynorthwyo i ennyn hyder yn fy sgiliau ac o ganlyniad 'dwi wedi datblygu fy musnes garddio a 'dwi newydd gyflawni fy swydd tirlunio cyntaf.
Mae'n anodd dod o hyd i rhywle i ddysgu'r sgiliau mae Tir Coed yn eu dysgu, roedd y rhan fwyaf ohonynt yn ran o fywyd bob dydd rhyw 30 – 40 mlynedd yn ôl, fel cynnau tân, defnyddio bwyell law, llifiau ac offer llaw sydd erbyn hyn wedi mynd yn angof.
Diolch Tir Coed am fwydo fy angen i fod yn ymarferol!