DI-WAITH > SAER & CREFFTWR HUNANGYFLOGEDIG
YN 2012 YMGYSYLLTODD ALED GYDA CHYNLLUN PEILOT VINE AR GWRS HYFFRODDIANT ACHREDIG TIR COED
Wedi'r cwrs hyfforddi:
“Wrth fynychu cynllun peilot VINE Tir Coed yng ngaeaf 2012, dysgais llawer am yr hyn yr oeddwn eisiau ei wneud gyda fy mywyd. Roedd hefyd yn ysbrydoliaeth gref i mi, a rhoddodd yr hyder i mi benderfynu fy mod yn medru cyflawni fy amcanion. Ers hynny 'dwi wedi bod yn dysgu fy hunan i durnio pren ac yn cynyddu fy ngwybodaeth am grefft coedwig a gweithio pren. Bu'r sgiliau a ddysgais ar y cwrs o gymorth i mi gael peth gwaith yn adeiladu toiledau cwrtaith fframyn pren unigolyddol. Mae'r gwaith hyn wedi datblygu fy sgiliau saer yn fwy ac wedi galluogi i mi gynyddu'r offer sydd gen i yn raddol. Dros y 12 mis diwethaf 'dwi wedi bod yn gweithio tuag at fy nod bersonol o gael pob darn o offer sydd angen arnaf a gweithio ar gyfer fy hunan yn gwneud a gwerthu cynhyrchion o'r turn.”
AETH ALED YMLAEN I GYFRANOGI YM MHROSIECT DILYNIANT CREFFT HADAU YN 2014 – 15 ER MWYN DATBLYGU EI FUSNES YN GWERTHU CYNHYRCHION CREFFT PREN, CREODD TIR COED BLATFFORM IDDO FARCHNATA A GWERTHU EI GYNHYRCHION O WAITH LLAW YN AMGUEDDFA CEREDIGION
Wedi prosiect Hadau:
“'Dwi'n teimlo bod y prosiect wedi bod yn allweddol wrth gynorthwyo i mi gymryd fy nghrefft o ddifrif a sylweddoli bod yna botensial i mi wneud bywoliaeth allan o rhywbeth 'dwi'n caru gwneud. Mae wedi rhoddi hwb mawr i'm hyder i ac wedi fy ysbrydoli i ddechrau datblygu rhywbeth a fu'n hobi yn fusnes dichonadwy. Mae'r amgueddfa wedi darparu cyfle gwerthfawr iawn i ni, un a allai wneud gwahaniaeth mawr i'n dyfodol, nid yn unig ein dyfodol ni fel crefftwyr, ond y gymuned ehangach a chrefftau lleol cynaliadwy.”