DI-WAITH > COEDWIGWR CYMDEITHASOL A PHERCHENNOG COEDLAN

Stori Tom

Fe glywais i am Tir Coed pan oeddwn newydd symud i'r ardal ac eisiau mynd allan i brydferthwch cefn gwlad gorllewin Cymru, ystyriais bod gwirfoddoli yn syniad da gyda'r gaeaf yn nesáu a dim gwaith ystyrlon ar y gorwel. Cofrestrais ar gwrs 12 wythnos yng nghoedwig hardd Coed Tamsin, gyda'r coedwigwr profiadol Bob Shaw yn diwtor. Dechreuom sylweddoli cymhlethdod systemau coetiroedd, ond hefyd y ffaith bod yna adnodd hynod o dda yma – ffatri pren cynaliadwy.

Wedi 3 mis o wirfoddoli buais yn ddigon ffodus i gael cynnig swydd yn weithiwr cynorthwyol ar y rhaglen 12 wythnos nesaf. Blwyddyn yn ddiweddarach a chyda dau brosiect arall fel gweithiwr cynorthwyol i'm henw, roedd yn amser ceisio am gymwysterau llif gadwyn a meddwl sut y gallwn gael mwy o brofiad o weithio gyda phren a gwneud penderfyniadau fy hunan. Buodd Tir Coed o gymorth i mi ar y ddwy agwedd hyn – gan fy rhoi mewn cysylltiad â chanolfan hyfforddi llif gadwyn a helpu dod o hyd i arian ar gyfer talu am yr arholiad, ac yna (gyda chymorth Bob) caniatáu i ni gychwyn gwaith ar hen goedlan o eiddo'r Comisiwn Coedwigaeth a fu'n angof yn Llanfarian. 

Gyda'm tystysgrifau llif gadwyn ac ychydig flynyddoedd yn derbyn a phrosesu doethineb Bob, dechreuais weithio ar gyfer nifer fach o berchnogion coedlannau preifat, gan helpu gyda'r gwaith caib a rhaw o reoli coetiroedd. Ar yr un pryd, derbyniais rai archebion bychain, er mwyn profi os oedd yna farchnad ar gyfer yr hyn yr oeddwn yn cynhyrchu allan o'r pren wast yn y coedlannau. Felly, ychydig flynyddoedd wedi dod i gysylltiad â Tir Coed, roeddwn yn gwneud bywoliaeth gan weithio mewn modd ystyrlon yn yr awyr agored! Rhai blynyddoedd eto, a 'dwi'n dal i weithio gyda Tir Coed yn y goedlan yn Llanfarian, ond fel tiwtor y tro hwn. Rwyf nawr yn berchennog coedlan, rwy'n parhau i weithio mewn coedlannau eraill ac yn ennill bywoliaeth diymhongar ond cynaliadwy. Mae'r gwaith yn dymhorol ac yn amrywiol, yn llawn creadigrwydd ac ysbrydoliaeth, wrth gwrs ar adegau mae'n waith caled, ond yn werth pob diferyn o chwys. Ni fedrwn ganfod gwell. 

Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed