Hyfforddwyr Llawrydd
Mae Tir Coed yn cyflogi hyfforddwr arbenigol llawrydd er mwyn ymgymryd â'r gwaith hynod bwysig o arwain grwpiau a rhedeg gweithgareddau a hyfforddiant ar y tir ac yn y coed.
Os ydych yn Arweinydd Gweithgareddau Llawrydd ac yn meddwl y gallech ddarparu gweithgareddau diddorol, anfonwch CV a llythyr esboniadol atom gan fanylu ar eich profiad perthnasol a'ch argaeledd. Cysylltwch â ni os hoffech fanylion pellach ar sut i ymwneud â phrosiectau Tir Coed.