Adeiladu Ty Crwn yn Sir Benfro
Written by Tir Coed / Dydd Mawrth 27 Chwefror 2018
Mae'r cwrs adeiladu tŷ crwn ar y gweill a'r sail yn cael ei osod.
Er yr eira, cesair a'r stormydd mae'r tiwtoriaid ymroddedig a'r cyfranogwyr di-ofn wedi dod ac wedi gwneud dechreuad da ar baratoi'r safle a'r pren. Mae'r cynhesrwydd o gydweithio yn y goedwig gydag elfen o hwyl a phwrpas wedi ysgwyd y cymylau duon i ffwrdd ac wedi galluogi'r haul i wenu drwy'r coed.
Mae arwyddion cynnar y gwanwyn i'w gweld ar draws y goedwig, a fel y blagur gwyrdd mae'r cwrs yn teimlo fel pe bai rhywbeth arbennig yn blaguro o'r tir, yn anorchfygol gan ennill momentwm wrth iddo dyfu.