Sicrhau Llwyddiant: Prosiect AnTir Sir Gaerfyrddin

Written by Tir Coed / Dydd Mawrth 20 Chwefror 2024

Mae'n bleser gan Tir Coed gyhoeddi ei lwyddiant diweddar wrth sicrhau cyllid i gyflawni Prosiect AnTir Sir Gaerfyrddin yn 2023/24.

Mae Prosiect AnTir Sir Gaerfyrddin wedi derbyn £171,968 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gyda chefnogaeth Cyngor Sir Caerfyrddin. Bydd y prosiect hwn yn galluogi Tir Coed i ddarparu cyrsiau sgiliau coetir, natur, tyfu bwyd a sgiliau treftadaeth, sesiynau blasu a chyfleoedd gwirfoddoli ledled Sir Gaerfyrddin.

Bydd y ddarpariaeth yn cynnig sgiliau penodol i weithwyr, dysgu achrededig a phrofiad sy'n berthnasol ar gyfer swyddi gwyrdd, ac yn cynnwys mentora, cyngor ac arweiniad un-i-un, gan gefnogi dilyniant sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn tuag at fwy o ymgysylltu economaidd a chymunedol.

Bydd y gwaith ymarferol a wneir yn ystod Prosiect AnTir Sir Gaerfyrddin yn gwella mannau cymunedol a bioamrywiaeth er budd pawb.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Cath Seymour: "Mae hyn yn newyddion gwych ar gyfer dyfodol Tir Coed yn Sir Gaerfyrddin. Mae'n golygu y gallwn barhau i gefnogi pobl dan anfantais, cynnig hyfforddiant wedi'i dargedu'n well i'r rhai sy'n dyheu am symud ymlaen i swyddi awyr agored neu wirfoddoli, a gwella mannau cymunedol at les pawb. Mae'n golygu y gallwn gyfrannu ein rhan fach wrth ymateb i heriau allweddol sy'n wynebu pobl Sir Gaerfyrddin, wrth helpu cymunedau lleol i ddod yn fwy gwydn."

Os hoffech gael gwybod mwy am Brosiect AnTir Sir Gaerfyrddin, a chael gwybod sut i gymryd rhan, cysylltwch â: [email protected].

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn brif biler agenda Hybu Ffyniant Bro llywodraeth y DU ac mae’n darparu £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer ei fuddsoddi’n lleol erbyn Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw gwella balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ar draws y DU, buddsoddi mewn cymunedau a lle, gan gynorthwyo busnesau lleol, a phobl a sgiliau. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i

https://www.gov.uk/government/...

Mae Sir Gaerfyrddin wedi derbyn tua £38 miliwn i ymateb i anghenion lleol a nodwyd yn y Cynllun Buddsoddi Lleol yn ogystal â strategaethau datblygu ac adfer economaidd lleol eraill. Mae rhaglen Cronfa Ffyniant Gyffredin Sir Gaerfyrddin yn cael ei rheoli a'i chyflwyno gan Gyngor Sir Caerfyrddin gydag arweiniad a chefnogaeth gan Bartneriaeth Adfywio leol sy'n cynnwys sefydliadau cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector. Am ragor o wybodaeth am raglen Cronfa Ffyniant Gyffredin Sir Gaerfyrddin, ewch i

https://www.sirgar.llyw.cymru/...


Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed