Sgiliau cynnau tân ym Mrechfa

Written by Tir Coed / Dydd Mercher 25 Ionawr 2023

Diolch i Gyllid Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Coedwig Brechfa, mae ein cwrs Gwaith Coed Coetir y gaeaf wedi hen ddechrau ym Mrechfa.

Roedd y cwrs yn un llwyddiannus gyda 14 o hyfforddeion yn ymuno â ni yn Keepers i ddysgu sgiliau newydd ac ennill achrediad mewn gwaith coed gwyrdd.

Gyda gostyngiad sydyn yn y tymheredd yn ddiweddar, buom yn ymarfer y nifer o ffyrdd i gynnau tân - gan gynnwys defnyddio dril llaw, fflint, durennau a hyd yn oed chwyddwydr.

Fe wnaethon ni gasglu a rhoi cynnig ar wahanol ddeunyddiau naturiol i'w defnyddio ar gyfer gosgymon, gan fwydo ein tanau gyda choed tân a fforiwyd o lawr y coetir a chawsom ein gwobr wrth i ni gynhesu ein hunain.


“Mae'n wych mynd allan a gwneud eich tân eich hun, mae'n rhywbeth roeddwn i'n arfer gwneud llawer ohono ond nid cymaint bellach” meddai un hyfforddai.

“Mae rhywbeth mor werth chweil amdano”, meddai un arall.

Nid yn unig ydych chi'n cael ymdeimlad enfawr o gyflawniad ar ôl cynnau tân, ond profwyd yn wyddonol bod trin tân gwersyll neu wylio tân gwersyll yn eich helpu i ymlacio, a gall hyd yn oed leihau eich pwysedd gwaed.

“Rydym wedi rhoi cynnig ar nifer o dechnegau gwahanol ar gyfer cynnau tân ac rydym wedi bod yn dysgu am ddiogelwch tân, rheoli risgiau a diogelu'r amgylchedd naturiol,” meddai Martyn, un o’n mentoriaid yn Sir Gaerfyrddin.

“Mae rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau i bobl weithio a mwynhau eu hunain yn gyfrifol yn yr awyr agored fel y gallant elwa ar y buddion llesol o wneud hynny yn hollbwysig i ni.”

- Martyn, Mentor Sir Gaerfyrddin

Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed