Tir Coed yn derbyn grant costau byw gan The Rank Foundation.

Written by Tir Coed / Dydd Llun 19 Mehefin 2023

Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod wedi derbyn grant costau byw gan The Rank Foundation.

Ar ôl cynnal arolwg o’u rhwydwaith ynghylch effaith costau byw, creodd Rank ddwy raglen grantiau newydd, un i helpu i dalu costau craidd ac un ar gyfer costau cynyddol fel tanwydd a nwyddau traul eraill. Dyfarnodd Rank 80 o grantiau costau craidd a 50 o grantiau costau cynyddol i’w rwydwaith cenedlaethol o elusennau, mentrau a sefydliadau cymunedol.

Byddwn yn defnyddio ein grant i sicrhau costau craidd a thîm rheoli’r elusen a fydd yn ei dro yn sicrhau y cyflawnir y gweithgaredd yn llawn ar gyfer ein prif brosiect AnTir.

Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed