Mae 12 wythnos arall wedi dod i ben, ond am etifeddiaeth sydd ar ôl
Written by Tir Coed / Dydd Llun 29 Gorffennaf 2019
Mae'r Tŷ Crwn wedi'i leoli'n berffaith, ar waelod Coed Cnwch ar lannau Afon Elan, er nad yw wedi gorffen 100% mae eisoes yn teimlo ei fod yn perthyn ac mae'n dyst gwych i Hyfforddeion a Thiwtoriaid Tir Coed a adeiladodd. Yn ystod 3 wythnos olaf y cwrs gwelodd ein criw dewr yn gweithio'n dda y tu hwnt i'r amser gorffen o 4pm, i sicrhau bod y cwrs yn dod i ben gyda strwythur y gellir ei ddefnyddio.
Dim ond 1 o'n hyfforddeion oedd erioed wedi ymgymryd â phrosiect fel hyn ac nid oedd llawer erioed wedi defnyddio cŷn na rhasgl. Dros yr wythnosau rydym wedi gwylio hyder y grŵp yn tyfu ac wnaeth y prosiect troi'n lafur cariad. Mae ein Tŷ Crwn yn dyst i'r hyn y gellir ei gyflawni pan fyddwch chi'n rhoi cyfle i bobl ddisgleirio.