Sicrhau Llwyddiant: Prosiect AnTir Sir Benfro

Written by Tir Coed / Dydd Mawrth 20 Chwefror 2024

Mae’n bleser gan Tir Coed gyhoeddi ei lwyddiant diweddar wrth sicrhau cyllid i gyflawni Prosiect AnTir Sir Benfro yn 2023/24

Mae Prosiect AnTir Sir Benfro wedi derbyn £153,870 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gyda chefnogaeth Cyngor Sir Benfro. Bydd y prosiect hwn yn galluogi Tir Coed i ddarparu cyrsiau sgiliau coetir, natur, tyfu bwyd a sgiliau treftadaeth, sesiynau blasu a chyfleoedd gwirfoddoli ledled Sir Benfro.

Bydd ein ddarpariaeth yn ymgysylltu pobl â byd natur twy wirfoddoli a hyfforddiant awyr agored i wella llesiant a sgiliau, gan gynnig dysgu achrededig a phrofiad sy’n bethnasol ar gyfer swyddi gwyrdd, mentora, un-i-un, cyngor ac arweiniad a fydd yn cefnogi dilyniant sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn tuag at fwy o ymgysylltu economaidd a chymunedol.

Bydd y gwaith ymarferol a wneir yn ystod prosiect AnTir Sir Benfro yn gwella mannau cymunedol a bioamrywiaeth er budd pawb.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Cath Seymour: “Mae hwn yn ganlyniad gwych i ddyfodol Tir Coed yn Sir Benfro. Mae’n golygu y gallwn barhau i gefnogi pobl ddifreintiedig, cynnig hyfforddiant garddwriaethol, coetir a thir wedi’i deilwra’n well i’r rhai sy’n dymuno symud ymlaen i swyddi awyr agored o fewn sectorau sgiliau gwyrdd. Bydd ein cyrsiau hyfforddi a chyfleoedd gwirfoddoli yn cyfrannu at wella mannau cymunedol er lles pawb. Mae’n golygu y gallwn gyfrannu ein rhan fach wrth ymateb i heriau allweddol a wynebir gan bobl Sir Benfro, tra’n helpu cymunedau lleol i ddod yn fwy gwydn.”

Os hoffech gael gwybod mwy am Brosiect AnTir Sir Benfro, a chael gwybod sut i gymryd rhan, cysylltwch â: [email protected].

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn brif biler agenda Hybu Ffyniant Bro llywodraeth y DU ac mae’n darparu £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer ei fuddsoddi’n lleol erbyn Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw gwella balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ar draws y DU, buddsoddi mewn cymunedau a lle, gan gynorthwyo busnesau lleol, a phobl a sgiliau. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i

https://www.gov.uk/government/...


Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed