Croeso i ein intern 'Time to Shine' newydd!

Written by Tir Coed / Dydd Mercher 09 Ionawr 2019

Helo! Fy enw i yw Rhys Russell a fi yw intern cyfathrebu newydd Tir Coed! Ar ôl cyfweliad llwyddiannus efo Tir Coed, few wnaeth fi a Lowri (Swyddog Marchnata Tir Coed) cael ei’n derbyn gan y Rank Foundation fel rhan o’r rhaglen ‘Time to Shine’.

Dros y flwyddyn nesaf, fe fydd fy swydd yw cynllunio, trefnu a chyflwyno gweithgareddau a digwyddiadau sy'n dathlu 'Dewch i Oed' Tir Coed, tra bod pawb yn dathlu'r holl waith gwych a gyflawnwyd dros y 21 mlynedd diwethaf!

Blwyddyn ddiwethaf, fe wnes i gael gradd BA yn Hanes ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ers graddio, gwariais fisoedd yn gweithio tu ôl i far ac oeddwn yn mynd i gwblhau cwrs i ddysgu Hanes yn ysgol uwchradd. Ond ar ôl bod yn un o'r prif wirfoddolwyr yng Ngŵyl Gerddoriaeth Oxjam Aberystwyth 2017, sylweddolais yn fuan mai cyfathrebu, marchnata a chynllunio digwyddiadau oedd rhywbeth yr oeddwn am ei ddilyn fel gyrfa.

Yn fy amser hamdden, rwyf wrth fy modd i wylio a chwarae pêl-droed ac i gerdded  ar draws cefn gwlad neu arfordiroedd. Yn 2016, cerddais dros 500 milltir o Lwybr Arfordir Cymru yn 2016, gan godi dros £ 1,200 ar gyfer Nyrsys Macmillan. Rydw i’n gyffrous iawn i ymuno a’r tîm a dwi fethu aros i weld beth fydd yn digwydd dros y flwyddyn nesaf!

Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed