Casglu Sbwriel am 21 milltir - Sut aeth hi?

Written by Tir Coed / Dydd Mercher 05 Mehefin 2019

Ar ddydd Sadwrn y 18fed o Fai, yr oedd 10 o gynrychiolwyr Tir Coed yn awyddus ac yn frwdfrydig gyda chasglwyr sbwriel a bagiau sbwriel yn barod wrth iddyn nhw aros tu ôl i’r llinell gychwyn yng nghanolfan hamdden Llanbedr Pont Steffan gyda’r herwyr eraill yn barod ar gyfer her cerdded/loncian/rhedeg 21 milltir Hydro Dragon Events. Eu cyrchfan - harbwr Aberaeron, 21 milltir yn ddiweddarach - ym mhell i ffwrdd; ond doedd dim diwedd ar frwdfrydedd y criw ac roedd hynny’n hawdd gweld a chlywed.

O fewn pum munud cyntaf y daith, roedd hi’n glir y byddan nhw’n llenwi nifer o fagiau, a gafodd eu darparu gan Keep Wales Tidy. Roedd tîm Tir Coed wedi gorfod arafu tipyn wrth i sbwriel gynyddu ac erbyn hyn roeddent tu ôl yr herwyr eraill. Fe ymunodd 2 marsial gwych Hydro Dragon Events â’r tîm am weddill y daith. O fewn y 30 munud cyntaf, roedd y tîm wedi casglu digon o sbwriel i lenwi dros 1 bag, a amlygodd yn gynnar pa mor bwysig oedd hi fod y grŵp yn gwneud y sialens.

   

Fe arweiniodd y llwybr i grombil cefn gwlad Cymru, a olygodd bod y sbwriel wedi lleihau tipyn. Roedd 3 bag sbwriel wedi’u casglu yn barod, ond trodd canolbwyntiad y grŵp o gasglu sbwriel am ychydig ac at y 5 milltir heriol nesaf. Bryniau, coedwigoedd, ffermydd a llwybrau cyhoeddus yn gefndir prydferth ar gyfer y bore a phrynhawn cynnar o gerdded.


Yn ystod y dydd, roedd y tîm yn cadw llygad ar y tudalen Justgiving, ac wrth i’r arian lifo i mewn, roedd yn gyrru pawb ymlaen! 11 milltir wedi’i gwblhau a gorsaf fwydo Talsarn o fewn cyrraedd; 6 bag llawn a dros £325 wedi’i godi, roedd y tîm yn edrych ymlaen at yr hyn oedd gan y 10 milltir nesaf ei gynnig ond yn gyntaf , bwyd!


Gyda’r gobaith fod y gwaethaf o’r sbwriel allan o’r ffordd, bwriodd y tîm ymlaen tuag at yr orsaf fwydo nesaf yng Nghiliau Aeron, 6 milltir i ffwrdd. Llwybr golygfaol gerllaw Afon Llan-llŷr, a digon o sbwriel i lenwi 3 bag arall, codwyd y cyflymder a chyrhaeddodd pawb Ciliau Aeron gan ddechrau teimlo poen y 17 milltir ddiwethaf, gydag un llygad yn edrych am sbwriel, a’r llall yn chwilio am unrhyw arwydd bod Aberaeron o fewn cyrraedd! Wrth i’r tîm ymuno â’r Afon Aeron, arhoson nhw gyda’i gilydd i gasglu 3 bag pellach llawn sbwriel.


8 awr a 57 munud ar ôl gadael Llanbedr Pont Steffan, croesodd y tîm y llinell gyda’i gilydd ac wedi codi dros £400 (ac yn dal i gyfrif!) ac wedi casglu 12 bag o sbwriel sy’n amlygu’r broblem sbwriel mawr yng Ngheredigion. Rhaid i ni gyd-weithio i leihau’r sbwriel sydd ar draws ein caeau, cloddiau ac ar ochr y ffordd, ac i gasglu’r sbwriel sydd yno’n barod, er lles y bywyd gwyllt lleol a’r amgylchedd, glendid ein trefi ac er lles dyfodol y blaned gyfan.


Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu i www.justgiving.com/campaign/tir-coed ac am rannu ein taith!



Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed